Bydd y llyfr ‘Mae Mari’n Caru Mangos’ yn cael ei lansio yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Dr Gwenllian Lansdown Davies sydd wedi trosi‘r llyfr ‘Mari Loves Mangoes’ gan Marva Carty i’r Gymraeg.
Yn ystod yr eisteddfod, bydd Mudiad Meithrin yn dathlu trosi chwech o lyfrau gan awduron Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i’r Gymraeg.
Bydd Marva Carty a Dr Gwenllian Lansdown Davies yn y lansiad.
Mae Mudiad Meithrin yn “gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddiwylliannol a llawn bywyd”.
Mae’r llyfrau’n cael eu trosi fel rhan o’r cynllun AwDUron gyda’r cwmni Lilly Translates, ac maen nhw’n gobeithio llenwi bwlch mewn llenyddiaeth plant o storïau gan awduron Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol trwy gyfieithu‘r gwaith i’r Gymraeg.
Bydd ‘Mae Mari’n Caru Mangos’ yn cael ei lansio ar stondin Mudiad Meithrin am 2 o’r gloch ar brynhawn dydd Iau, Awst 4, gyda Marva Carty, Jessica Dunrod o Lily Translates, a Dr Gwenllian Lansdown Davies.
Yn dilyn ‘AwDUron’, mae ‘AwDUra’ hefyd wedi cael ei lansio i roi llais a llwyfan i Gymry Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i ysgrifennu, creu a chyhoeddi storïau i blant yn Gymraeg.
Mae deg o ddarpar awduron yn cymryd rhan yng nghynllun ‘AwDUra’, ac yn cael eu cefnogi gan Manon Steffan Ros a Jessica Dunrod.
“Mae wir yn anrhydedd fod un o fy llyfrau i wedi cael ei drosi i’r Gymraeg gan felly gyrraedd cynulleidfa newydd o blant trwy gynllun ‘AwDUron’ Mudiad Meithrin a ‘Lily Translates’,” meddai Marva Carty.
“Dwi’n edrych ymlaen at y lansiad yn yr Eisteddfod, gan obeithio y bydd y llyfr yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o lenorion o gefndiroedd amrywiol”.