Mae cyfres o adnoddau wedi cael eu creu i gyflwyno hanes yr Urdd i bobol ifanc drwy linell amser ddigidol.
Trwy’r llinell amser, mae cyfle i ddarganfod ffeithiau diddorol am yr Urdd a’i hanes, defnyddio Neges Heddwch yr Urdd i ddysgu am wahanol wledydd ar draws y byd.
Mae un llinell amser ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac un arall ar gyfer ysgolion dwyieithog, felly mae’r adnodd yn addas i ddysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf.
Mae’r adnoddau yn cynnig syniadau ar gyfer gweithgareddau y mae posib eu gwneud yn y dosbarth, ac yn ymateb i ofynion Cwricwlwm i Gymru.
Y nod ydy gwella gwybodaeth disgyblion am hanes a gwaith amrywiol yr Urdd erbyn heddiw.
Mae’n bosib cael mynediad drwy wefan HWB.
Dyma Rhian Dafydd, uwch swyddog marchnata Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn sôn am yr adnoddau: