Cafodd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2022 ei lansio mewn Bore Coffi ar-lein ar Ddydd Gŵyl Dewi yng nghwmni enillydd y llynedd, David Thomas.

Mae’r gystadleuaeth i bobol dros 18 oed sy wedi dysgu siarad Cymraeg.

Y dyddiad cau ym Mai 1, bydd y rownd gyn-derfynol ym mis Mehefin ac wedyn bydd pedwar person yn cystadlu yn y rownd derfynol ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst, gyda seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod ar nos Fercher Awst 3.

Y beirniaid yn y rownd derfynol eleni fydd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, cyflwynydd Radio Cymru Geraint Lloyd, a’r bardd Cyril Jones.

‘Dathlu siaradwyr newydd’

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn gyfle i ddathlu siaradwyr newydd i’r Gymraeg. Mae hi’n gystadleuaeth bwysig yn yr Eisteddfod Genedlaethol,” meddai Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

“Mae’r gystadleuaeth yn denu pobl wych, sy wrth eu boddau yn siarad Cymraeg ac sy’n ysbrydoli pobl eraill i ddysgu ein hiaith.

“Mae’r Ganolfan yma i groesawu a chefnogi pawb sy eisiau dysgu Cymraeg, ac mae gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn creu cyfleoedd i’n dysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg.”

‘Ewch amdani’

Mae cyn-enillwyr Dysgwr y Flwyddyn yn dod o bob rhan o Gymru, Lloegr, ac mor bell â’r Ariannin. Mae enillydd 2021, David Thomas, yn dod o Gaerdydd yn wreiddiol ond yn byw yn Nhalog yn Sir Gaerfyrddin, ac mae e’n rhedeg cwmni Jin Talog gyda’i ŵr, Anthony.

Mae David wedi cael blwyddyn brysur yn mynd i digwyddiadau a gwneud cyfweliadau yn siarad am dysgu’r iaith ac ennill y gystadleuaeth.

Cymerodd e ran mewn bore coffi ar Ddydd Gŵyl Dewi a gafodd ei drefnu fel rhan o ŵyl ddarllen Amdani y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Roedd ennill y wobr yn golygu cymaint i fi’n bersonol,” meddai David Thomas.

“Dw i wrth fy modd mod i’n gallu siarad yr iaith, ac roedd e’n anrhydedd cael fy enwebu, heb sôn am ennill.

“Ces i fy ysbrydoli gan enillwyr eraill dros y blynyddoedd, oedd yn ‘dangos y ffordd’, ac ro’n i’n benderfynol o wneud yn siŵr bod fy mlwyddyn fel Dysgwr y Flwyddyn yn cyfri.

“Dw i wedi mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau ym mhob rhan o Gymru. Dw i wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd dros y flwyddyn.

“Dw i’n annog dysgwyr eraill sy, fel fi, wedi cael hwyl enfawr yn newid eu bywydau trwy ddysgu Cymraeg, i fynd amdani gyda’r gystadleuaeth eleni.

“Pob lwc i bawb!”

 

Geirfa

lansio to launch

rownd gyn-derfynol semi final

beirniaid adjudicators

Prif Weithredwr Chief Executive

denu to attract

ysbrydoli to inspire

cyn-enillwyr former winners

Yr Ariannin Argentina

cyfweliadau interviews

anrhydedd honour

enwebu to nominate

penderfynol determined