Ydach chi’n cofio Toast Toppers neu Arctic Roll? Ydy rhai bwydydd yn atgoffa chi o’ch plentyndod? Yma mae rhai o bobl gyfarwydd Cymru yn rhannu atgofion am eu hoff fwyd. Yr wythnos yma y canwr a’r cyfansoddwr Dafydd Iwan, sy’n siarad efo Lingo360. Mae’n byw wrth ymyl Caernarfon yng Ngwynedd…
Dw i’n cofio mynd i aros efo Nain yn Nolyronnen, Llanbrynmair pan oeddwn yn blentyn. Roeddwn i’n rhyfeddu at y ffordd yr oedd hi’n medru gwneud tamaid blasus o fwyd allan o ddim byd bron. Llawer o ail-goginio mewn sosban fach ar y tân, a’r blas yn gwella bob tro. Ro’n i’n meddwl bod Nain yn ddewines!
Doedd dim ffws am fwyd yn tŷ ni, ond roedd Mam yn gogyddes ardderchog. Roedd rhaid gwneud i ychydig fynd ymhell. Roedd pedwar o blant, a chyflog gweinidog yn fach. Ond doedden ni byth heb ddigon. Mae llawer o’r pethau sy’n cael eu pwysleisio erbyn hyn – dim gwastraffu, a bwyta llawer o ffrwythau a llysiau o’r ardd – yn mynd a fi’n ôl at ddyddiau fy ieuenctid. Roedd fy Nhad yn hoffi garddio a thyfu llysiau a chadw ieir i gael wyau. Ac roedd Mam yn casglu ffrwythau fel mwyar duon a llus i wneud tarten a jam ac ati. A’r ffrwythau gwyllt gorau o’r cyfan oedd mefus gwyllt – sydd mor, mor brin erbyn heddiw.
Dw i’n hoffi unrhyw fath o gaws. Caws caled yw’r gorau gen i, a dw i’n bwyta gormod ohono. Ryden ni’n lwcus iawn yng Nghymru o gael cymaint o gawsiau lleol. Caws y pecyn coch gan Hufenfa De Arfon yw fy ffefryn.
Y prydau bwyd gorau yw’r rhai lle mae’r teulu cyfan yn medru cyfarfod mewn bwyty da lle mae’r bwyd yn flasus. Does gen i ddim un math o fwyty fel ffefryn – mae bwyty Indiaidd neu Tsieineaidd yn gallu bod yn wych. Mae llefydd sy’n rhoi lot o gyrsiau bach gwahanol yn gallu bod yn brofiad pleserus. Ond cwmni’r teulu sy’n gwneud pryd o fwyd yn sbesial.
Y bwyd sy’n dod a fwyaf o atgofion yn ôl imi yw’r bwyd oedden ni’n cael adeg cynhaea’ gwair ar fferm Nantyfyda ers talwm. Mi fyddai fy mrodyr a fi yn helpu Anti Sera i gario’r bwyd dros y bompren at y gweithwyr. Eistedd yno ar y gwair yn bwyta’r brechdanau mwyaf blasus erioed, gydag wyau a phersli, tomatos a chaws, a Chwrw Sinsir (Ginger Beer) i’w golchi i lawr! Nefoedd ar y ddaear.
Dydw i ddim yn gogydd ond, mi alla’i wneud pryd o fwyd digon taclus! Mae’n jôc ymhlith y plant mai dau bryd dw i’n gallu eu gwneud – sef omlet, neu gawl. A beth sy’n dda am y rhain yw y gallwch chi daflu unrhyw beth sydd wrth law yn y rhewgell neu beth bynnag i’r ddau, a gwneud pryd blasus ohonyn nhw. Fy ffefryn yw cawl ond nid lobsgóws, lle mae’r llysiau wedi berwi gormod. Dw i’n hoffi cawl, lle mae’r hylif yn glir, a’r llysiau yn gyfan, heb eu berwi gormod. Gall y cig fod yn weddill y cinio Sul, neu’n ddarn o unrhyw gig, neu’n giwb Oxo, neu hyd yn oed sleisen o gig moch. Mae’n bwysig cael nionyn a thipyn o lysiau gwyrdd. Mi fydda’i bob amser yn cynnwys tomato neu ddau i roi ychydig o flas. Ie, mae’n debyg mai cawl da yw fy hoff fwyd.
Mae Dafydd Iwan wedi mynd i Qatar i gefnogi tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd…