Joe Healy o Gaerdydd yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Cafodd ei enw ei gyhoeddi mewn seremoni yn y Pafiliwn heddiw (dydd Mercher).

Mae Joe Healy yn dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol. Daeth i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a phenderfynu aros yn y brifddinas.  Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018, ac erbyn hyn mae’n rhugl. Mae’n defnyddio’r iaith yn gymdeithasol ac yn y gwaith.  Mae hefyd wedi cefnogi ei gydweithwyr i ddysgu Cymraeg.

Mae Joe’n angerddol dros y Gymraeg a Chymru.  Mae diddordeb gyda fe hefyd mewn gwleidyddiaeth.

Roedd Joe yn emosiynol iawn pan gafodd ei enw ei gyhoeddi. Roedd e’n dweud bod e ddim wedi disgwyl ennill am fod safon y tri arall mor dda.

Dywedodd y beirniaid bod y safon eleni yn uchel iawn.

Y beirniaid yn y gystadleuaeth oedd Cyril Jones, Elwyn Hughes a Geraint Lloyd.

Mae Joe yn cael tlws arbennig a £300 gan Seiri Rhyddion Talaith Gorllewin Cymru.  Bydd Joe hefyd yn cael bod yn aelod o’r Orsedd.

Roedd 18 o ddysgwyr yn y ras y tro yma gyda phedwar yn cyrraedd y rownd derfynol. Y tri arall oedd Stephen Bale o Fagwyr, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth, a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.

Fe fu Lingo360 yn holi Joe Healy yn gynharach yr wythnos hon. Yma mae’n ateb ein cwestiynau…

Beth am gyflwyno eich hun i ni gael dod i’ch adnabod chi’n well…

Dw i’n dod o Wimbledon yn Ne Llundain yn wreiddiol. Wnes i symud i Gaerdydd bron i 10 mlynedd yn ôl i fynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Sbaeneg. Dw i dal yn byw yng Nghaerdydd nawr, er bod fi wedi byw yng Nghatalwnia, Periw ac yn ôl yn Llundain ers i fi symud i Gymru i ddechrau. Saesneg yw fy iaith gyntaf, a wnes i ddysgu Sbaeneg a Chataleneg yn y brifysgol. Wnes i ddim dechrau dysgu Cymraeg tan i fi ddechrau mynd mas gyda rhywun oedd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf

Pam wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Mae hi wedi bod yn broses hir iawn, gyda sawl moment o ysbrydoliaeth! Ond wnes i ddechrau dysgu tua 4-5 mlynedd yn ôl achos roedd fy nghariad i ar y pryd yn dod o Geredigion ac yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Roedd hi’n siarad Cymraeg gyda’i theulu a’i ffrindiau i gyd, felly ges i’r cyfle i gael fy nhrochi yn y Gymraeg. Dros yr amser oedden ni gyda’n gilydd, wnaeth hi helpu fi i ddechrau dysgu’r iaith. Roedd hi hefyd wedi helpu fi i weld pa mor anhygoel ac arbennig yw diwylliant Cymru, a sa’i wedi edrych yn ôl ers ‘ny! Er bod ni ddim gyda’n gilydd rhagor (ni dal yn ffrindiau!), dw i nawr yn byw yng Nghaerdydd gyda Chymry Cymraeg, felly dw i’n siarad Cymraeg trwy’r dydd bob dydd. Erbyn hyn dw i’n ystyried fy hun fel rhan o gymuned Cymraeg Caerdydd.

Sut oeddech chi wedi dysgu?

Wnes i ddechrau jyst yn trio cael sgyrsiau syml. O’n i’n lwcus bod pobl o gwmpas i helpu fi gyda hynny. O’n i’n defnyddio’r ap SaySomethingInWelsh yn eithaf aml cyn i fi gyrraedd safon lle o’n i’n gallu sgwrsio gyda phobl yn iawn. Wedyn, wnes i gwrs o wersi Cymraeg, lefel Sylfaen, wnaeth helpu llawer gyda’r pethau mwy technegol a gramadegol. Er bod fi wedi gwneud gwersi ers ‘ny hefyd, ac maen nhw wedi bod yn ddefnyddiol, mae 99% o’r ymarfer a’r addysg dw i wedi cael yn yr iaith wedi bod ‘ar y strydoedd’, yn cwrdd â phobl ac yn cymdeithasu yn y byd go iawn. Dyna pam mae Cymraeg llafar fi’n dda ond mae angen lot o waith ar fy Nghymraeg ffurfiol ac ysgrifenedig fi. Sai’n difaruhynna ar y cyfan – mae’n well ‘da fi swnio’n naturiol a bod yn hyderus yn siarad gyda phobl na gallu defnyddio’r iaith yn ‘gywir’ trwy’r amser. Dw i dal yn cael problemau weithiau, felly dw i dal yn y broses o ddysgu!

 Sut mae eich bywyd wedi newid ers i chi ddechrau dysgu?

Dw i’n siŵr bod lot o bobl yn dweud hyn, ond mae’n hollol wir yn fy achos i: mae dysgu Cymraeg wedi troi fy mywyd ar ei ben. Dw i wedi mynd o sefyllfa lle o’n i ddim yn gallu siarad Cymraeg o gwbl pum mlynedd yn ôl i ddefnyddio’r iaith ym mhob rhan o fy mywyd nawr. Mae dysgu Cymraeg wedi helpu fi i weld y byd yn wahanol, i brofi pethau fyddwn i byth wedi taswn i ddim wedi dysgu – yn enwedig cerddoriaeth a digwyddiadau diwylliannol. A dw i wedi cwrdd â llwyth o bobl hyfryd. Mae’r Gymraeg a diwylliant Cymraeg wedi dod yn rhan hollol naturiol o fy mywyd i – dw i bron ddim yn teimlo fel dysgwr weithiau erbyn hyn.

Beth yw eich cyngor i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg?

Mae cymaint o opsiynau gwahanol o ran adnoddau a ffyrdd gwahanol i ddysgu’r iaith ac mae pawb mor gefnogol, felly ti’n gallu gwneud e unrhyw ffordd ti moyn. S’dim rhaid i ti wneud e mewn gwersi gyda phobl eraill o gwmpas, er byddwn i’n awgrymu gwneud hynny hefyd. Fyddi di’n gallu cwrdd â phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa! Ond nid pwnc academaidd yw’r iaith Gymraeg – mae’r iaith yn fyw ac yn amrywiol, felly sai’n credu bod hi’n bosibl dysgu hi’n iawn mewn ystafell ddosbarth. Mae hi’n lot haws dysgu tra bo ti’n gwneud y pethau ti’n mwynhau. Y peth pwysica’ yw defnyddio’r iaith tamed bach bob dydd, jyst faint bynnag ti’n gallu, mewn unrhyw sefyllfa ti’n teimlo’n gyfforddus. Bydd yn codi dy hyder wrth wneud e. Cerddoriaeth, llenyddiaeth, chwaraeon – gallai fe fod yn unrhyw beth. Does dim brys – dysga yn dy amser dy hun, un dydd ar y tro. Hefyd, paid â becso am siarad Cymraeg yn berffaith, achos dyma gyfrinach: dyw hi ddim yn bodoli! Yn lle poeni am y gramadeg, canolbwyntia ar ba mor anhygoel yw’r diwylliant a’r bobl – dyna beth sydd wedi helpu fi mwy na dim byd. Gad i bopeth arall gwympo i’w le wedyn.