Mae trefnwyr Gŵyl Tawe yn dweud eu bod nhw’n gobeithio “cyflwyno pobol newydd i’r iaith Gymraeg”.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn nhafarn y Railway yng Nghilâ ddydd Sadwrn (Gorffennaf 9).

Y prif fandiau ac artistiaid eleni yw Los Blancos, Parisa Fouladi, Y Dail ac Ynys.

Mae’r Railway Inn, sydd wedi’i lleoli yn Nyffryn Clun ar ymyl Penrhyn Gŵyr, yn eithaf agos i ganol dinas Abertawe, ac mae’n cynnig dewis gwych o gwrw lleol, a phabell awyr agored ar gyfer cerddoriaeth fyw.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae’r dafarn ar agor am 12 o’r gloch canol dydd, gyda cherddoriaeth rhwng 1yp a 7yh.

Mae’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe a gyda chefnogaeth y cynllun Haf o Hwyl, a bydd cyfle i bobol 18 i 25 oed ddysgu mwy am y cyfleoedd i ddysgu Cymraeg am ddim sy’n dechrau ym mis Medi.

‘Cyfle gwych i gymdeithasu

“Roedden ni’n falch iawn o allu cynnal yr ŵyl bron syth ma’s o gyfyngiadau Covid y llynedd, ac rydyn ni’n gyffrous iawn i adeiladu ar hwnna ac ehangu‘r digwyddiad bach mwy eto eleni,” meddai Tomos Jones, Prif Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe.

“Mae gyda ni berfformiadau acwstig, neu stripped back, arbennig ac efallai bach yn anarferol.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at set Los Blancos, sy’n agor yr ŵyl am 2yh.

“Mae’n gyfle gwych i siaradwyr Cymraeg yn yr ardal i ddod at ei gilydd i gymdeithasu ac i fwynhau cerddoriaeth wych.

“Mae cerddoriaeth hefyd yn bwynt mynediad i bobol sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg.

“Mae e’n rywbeth hygyrch iawn ac mae’n cyflwyno pobol newydd i’r iaith Gymraeg.”