Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a golwg360 yn dathlu darllen rhwng Chwefror 28 a Mawrth 4.
Bob dydd ar golwg360, bydd dwy erthygl fydd yn addas i ddysgwyr sy ar lefel Canolradd+. Bydd yr erthyglau mewn adran arbennig o’r enw Dysgu Cymraeg erbyn amser cinio bob dydd.
Digwyddiadau
Bydd gweithdy ysgrifennu gydag Anni Llŷn a Ffair Lyfrau i Rieni yn rhan o’r Ŵyl Ddarllen eleni.
Mae gweithdy ysgrifennu gydag Anni Llŷn a Ffair Lyfrau i Rieni yn rhan o ‘Amdani’, Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg rithiol, sy’n cael ei chynnal am yr ail dro eleni.
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn cael ei chynnal rhwng Chwefror 28 a Mawrth 4.
Bydd y gweithdy ar nos Iau, Mawrth 3, i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.
Nod yr ŵyl rithiol, sy’n digwydd rhwng 28 Chwefror a 4 Mawrth, yw dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, ‘Amdani’, ac annog dysgwyr i fwynhau defnyddio eu Cymraeg trwy ddarllen llyfrau, cylchgronau neu wefannau.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar raddfa fach y llynedd, ond mae’n llawer mwy eleni.
Bydd cyfle i rieni sy’n dysgu Cymraeg ddysgu mwy am y llyfrau Cymraeg bywiog a lliwgar sy ar gael i’w plant, mewn ffair lyfrau rithiol ar nos Fercher, 2 Mawrth
Mae’r digwyddiadau eraill yn cynnwys gig gan Robat Arwyn, clwb darllen gyda’r awdur Sarah Reynolds, a sesiwn ioga cadair gyda Laura Karadog a Catrin Jones.
Bydd hi’n bosib gwylio’r noson o ganu a sgwrsio gyda’r cerddor a’r cyflwynydd Robat Arwyn ar dudalen Facebook y Ganolfan Dysgu Cymraeg am 7 o’r gloch ar Ddydd Gŵyl Dewi, ac mae’n addas i ddysgwyr lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi hefyd, bydd y Ganolfan yn cynnal bore coffi yng nghwmni Dysgwr y Flwyddyn, David Thomas. Bydd cyfle i ddysgwyr wneud cyfraniad i elusen meddwl.org a bydd cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ Eisteddfod Ceredigion 2022 yn cael ei lansio.
Hefyd, bydd y Ganolfan yn cyhoeddi podlediad rhwng Jo Heyde, wnaeth gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ y llynedd, a’r awdur Caryl Lewis.
Bydd storïau newydd i ddysgwyr gan Pegi Talfryn a Lleucu Roberts, a bydd pobl enwog yn dweud beth yw eu hoff lyfrau, a pham.
Mae cystadleuaeth ysgrifennu stori hefyd yn cael ei chynnal fel rhan o’r ŵyl, ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, a bydd y storïau gorau yn cael eu cyhoeddi ar Facebook yn ystod yr ŵyl.
Bydd erthyglau dyddiol ar gyfer dysgwyr ar wefan golwg360, ac mae llawer o bartneriaid eraill, gan gynnwys BBC Radio Cymru ac S4C, yn cefnogi’r ŵyl.
Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi rhestr ddarllen ar gyfer dysgwyr lefel Uwch a Gloywi yn ystod yr ŵyl.
Geirfa
gweithdy workshop
rhithiol virtual
nod aim
ar raddfa fach on a small scale
cyfraniad contribution
Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg ‘Amdani’ yn “cynnig rhywbeth i ddysgwyr ar bob lefel”
Darllenwch ragor am yr ŵyl y llynedd: