Mae Rhys Hughes yn ffermwr llaeth yn Sir Ddinbych.
Mae’n gweithio ar fferm godro’r teulu yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch.
Roedd Rhys a’i rieni, Nia ac Wyn Hughes, wedi dechrau gwerthu llaeth cyflawn ac ysgytlaeth o’r fferm ym mis Tachwedd y llynedd.
Mae o wedi prynu peiriant gwerthu er mwyn gwerthu’r llaeth a’r ysgytlaeth yn syth i’w gwsmeriaid.
“Roedden ni wedi dechrau’r fenter er mwyn cael pris teg am ein llaeth na be ydan ni’n cael gan yr archfarchnadoedd, a gwerthu’n syth i’r cwsmer,” meddai Rhys.
“Mae’r archfarchnadoedd yn cymryd mantais o ffermwyr ac maen nhw allan o boced. Drwy werthu’n syth i’r cwsmer rydan ni’n cymryd pethau i’n dwylo’n hunain,” meddai.
Mae gan y fferm 120 o wartheg Holstein Friesian a 100 o wartheg cig eidion.
Mae Rhys a’i Dad yn codi am 5 bob bore i odro’r gwartheg.
Wedyn mae’r llaeth yn cael ei basteureiddio. Mae llaeth ffres yn mynd i’r peiriant gwerthu bob bore cyn cael ei droi’n ysgytlaeth.
Rownd laeth
“Roedd Nain a Taid yn arfer gwneud rownd laeth yn yr ardal yn y 1960au hyd at yr 80au. Roeddwn i eisiau mynd yn ôl i’r ffordd hen ffasiwn o werthu llaeth yn syth i’r cwsmer ond efo twist modern,” meddai Rhys.
“Ers Covid mae pobl wedi sylweddoli pa mor bwysig ydy prynu pethau lleol a helpu busnesau bach lleol. Dydy o ddim yn beth da i’r amgylchedd i brynu bwyd sydd wedi dod o dramor. Rydan ni wedi dibynnu lot gormod ar fewnforion am rhy hir. Does dim byd gwell na phrynu o fusnes lawr y ffordd.”
Mae’r llaeth a’r ysgytlaeth yn caei ei werthu mewn poteli gwydr. Mae cwsmeriaid yn gallu ail-ddefnyddio’r boteli wedyn i’w llenwi gydag ysgytlaeth. Mae hyn yn torri lawr ar blastig, meddai Rhys.
Mae’n dweud eu bod nhw wedi cael ymateb da iawn gan bobl leol.
Mae plant yn hoffi dod yno i drio’r gwahanol flasau o ysgytlaeth ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau, yn ôl Rhys.
Cynnyrch lleol
Mae o wedi adeiladu sied yn arbennig ar gyfer y peiriant gwerthu ysgytlaeth.
Mae peiriant gwerthu arall mewn sied ar wahân yn gwerthu coffi a chynnyrch lleol.
“Mae’r peiriant arall yn llawn peis a rholiau selsig gan y cigydd J H Jones yn Ninbych. Mae gynnon ni gacennau gan Siwgr a Sbeis [o Lanrwst] a Henllan Bakery yn Ninbych, creision gan Jones o Gonwy, wyau o Fferm Clyttir yn Llanbedr Dyffryn Clwyd a jamiau a sudd afal. Rydan ni bob amser yn chwilio am bethau eraill i ychwanegu at y peiriant.”
Eisteddfod yr Urdd
Mae Llaethdy Llwyn Banc yn mynd i Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf eleni.
Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych rhwng Mai 30 a Mehefin 4.
Roedd yr ŵyl wedi cael ei gohirio am ddwy flynedd oherwydd y pandemig.
“Rydan ni wedi hurio peiriant gwerthu a threlar i fynd i’r Steddfod. Dyma fydd y tro cyntaf i ni fynd efo’r busnes. Fyddwn ni’n gwerthu jest llaeth cyflawn ac ysgytlaeth o’r trelar. Mae gynnon ni boteli a chwpanau Cymraeg yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod,” meddai Rhys.
Mae’r teulu yn bwriadu canolbwyntio ar yr ysgytlaeth ar hyn o bryd ond mae Rhys yn dweud eu bod nhw eisiau tyfu’r busnes yn y dyfodol.
“Mae cymaint o bethau gallwch chi wneud efo llaeth – iogwrt, caws, menyn – ond rydan ni am ganolbwyntio ar y llaeth a’r ysgytlaeth am y tro a gweld sut mae pethau’n mynd.”