Mae ffatri gaws newydd ar Ynys Môn wedi derbyn sylw rhyngwladol cyn agor yn y gwanwyn.
Bydd y ffatri cwmni Mona Dairy, sy’n werth £20 miliwn, yn gwneud 7,000 tunnell o gaws bob blwyddyn.
Bydd y ffatri ar safle 25,000 troedfedd sgwâr ym Mharc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai ac yn un o’r rhai mwyaf modern yn Ewrop.
Fel rhan o’r datblygiad, bydd 100 o swyddi newydd, ac fe fydd yn ffatri carbon niwtral sy’n rhedeg ar ynni adnewyddadwy.
Arloesi
Rheolwr Gyfarwyddwr Mona Dairy yw Ronald Akkerman o’r Iseldiroedd. Mae e’n dweud bydd y prosiect yn defnyddio dulliau traddodiadol ac arloesol i wneud cawsiau Iseldireg fel Edam a Gouda, a chawsiau artisan sy’n defnyddio llefrith lleol.
“Y ffatri hon yw’r datblygiad mwyaf yn y sector bwyd yn ddiweddar ac mae’n denu llawer iawn o ddiddordeb o bob rhan o’r diwydiant dros y byd,” meddai.
“Mae’n gyffrous iawn gallu dangos y ffatri i bobl.”
Gwerthoedd y cwmni
Yn ôl Ronald Akkerman, mae Mona Dairy yn cynnig bargen well, deg a thryloyw i ffermwyr, ac yn defnyddio safonau cynaliadwy ac ecogyfeillgar.
“Mae’n gyfnod cyffrous i ni ac i’r diwydiant, a dydyn ni ddim yn gallu aros i’r broses ddechrau.”
Geirfa
sylw rhyngwladol international attention
tunnell ton
datblygiad development
ynni adnewyddadwy renewable energy
arloesi to pioneer
rheolwr gyfarwyddwr managing director
dulliau methods
arloesol pioneering
denu to attract
tryloyw transparent
safonau cynaliadwy sustainable standards