Dych chi’n meddwl dylai’r Eisteddfod newid enw ‘Dysgwr y Flwyddyn’?

Mae’r Eisteddfod yn trafod newid enw’r gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Dyma’r gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn ar gyfer pobol sydd wedi dysgu Cymraeg.

Mae rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru wedi bod yn trafod hyn hefyd. Mae Aled yn credu byddai’n well galw pobol sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn ‘Siaradwr Newydd’ yn lle ‘Dysgwr’.

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Betsan Moses yn dweud eu bod nhw’n gweithio efo’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i benderfynu beth yw’r term gorau.

Gwenllian Carr ydy Swyddog Cyfathrebu’r Eisteddfod. Mae hi’n dweud: “Mae o i fyny i ddysgwyr.”

Beth dych chi’n credu? Beth am roi gwybod i Lingo360?