Mae’r ddawnswraig Amy Dowden wedi dweud wrth Lingo360 ei bod hi wedi dysgu mwy drwy wneud camgymeriadau ar Iaith Ar Daith na phe bai hi wedi cael popeth yn iawn y tro cyntaf.

Mae Iaith Ar Daith yn rhoi’r cyfle i selebs fynd i lefydd gwahanol yng Nghymru gyda’i gilydd i ddysgu ac ymarfer siarad Cymraeg.

Y canwr Aled Jones oedd ei mentor ar y rhaglen.

“Roedd hi’n anodd, dw i ddim yn mynd i ddweud celwydd, ond ro’n i wedi mwynhau yn fawr.

“Ro’n i wedi trio cymaint ag y gallwn i, ond wnes i daflu fy hun i mewn iddi a gadael i fi fy hun wneud camgymeriadau.

“Dysgais i fwy drwy wneud camgymeriadau na’i gael yn iawn y tro cyntaf.

Am wn i, dyna sut mae e i’r selebs ar Strictly, a dysgais i sut mae bod yn eu hesgidiau nhw.”

BAFTA Cymru

Roedd Amy Dowden yn siarad â Lingo360 yng ngwobrau BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Sul (Hydref 9).

Roedd hi wedi cyflwyno dwy wobr.

“Dw i’n credu ei bod hi’n arbennig iawn cael dathlu‘r holl waith caled mae pawb wedi’i wneud ar y sioeau teledu anhygoel hyn.

“Mae’n gyffrous iawn, ac yn hyfryd cael bod yn ôl.”

Byw â chyflwr Crohn’s

Mae Amy Dowden yn byw â Crohn’s.

Mae hi wedi cyflwyno rhaglenni teledu yn trafod y cyflwr.

Enillodd hi wobr am y rhaglen Strictly Amy: Crohn’s & Me y llynedd.

Pam fod rhaglenni fel hon yn bwysig i Amy?

“I fi, mae’n tynnu sylw at IBD.

“A gweld beth roedd e wedi gwneud i’n cymuned ni, yn dod â ni yn nes at ein gilydd a gallu dangos i’r teulu a ffrindiau a chydweithwyr beth yn union rydyn ni’n dioddef ohono.

“Rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel.

“Dyma’r peth mwyaf gwerthfawr dw i erioed wedi gwneud.”