Bydd tîm pêl-droed Cymru’n mynd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Roedden nhw wedi curo Wcráin o 1-0 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul (Mehefin 5).
Sgoriodd Andriy Yarmolenko gôl i’w rwyd ei hun ar ôl cic rydd Gareth Bale ar ôl 33 munud.
Byddan nhw’n hedfan i Qatar ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn chwarae yn erbyn Lloegr, Iran a’r Unol Daleithiau.
Ar ôl y gêm, roedd y rheolwr Rob Page wedi talu teyrnged i Gary Speed, y cyn-reolwr oedd wedi marw yn 2011.
Ac roedd e wedi dweud bod Cymru’n “hyderus yn mynd i mewn i gemau nawr”.
“Dydyn ni ddim yn gobeithio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd na’r Ewros nawr, ond yn credu ein bod ni’n gallu, felly mae newid enfawr wedi bod i’n meddylfryd hefyd.”
Cyn ac ar ôl y gêm, roedd Dafydd Iwan wedi canu ‘Yma O Hyd’.