Yn y dyddiau diwethaf, mae’n debyg bod pob un o gynghorau sir Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i dderbyn ffoaduriaid tasen nhw’n cyrraedd y wlad.
Erbyn bore dydd Iau (Mawrth 3), roedd miliwn o bobol wedi gadael yr Wcráin er mwyn osgoi’r rhyfel.
Mae faint o bobol yr Wcrain fydd yn dod i Gymru yn ddibynnol ar bolisi San Steffan.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud y byddan nhw’n cynnig help llaw wrth groesawu unrhyw ffoaduriaid sy’n cyrraedd yma.
“Mae cynghorau yn brofiadol wrth helpu pobol o wledydd sydd wedi eu heffeithio gan ryfel, a basen nhw’n gwneud eu gorau glas i gefnogi pobol sy’n dod yma o’r Wcrain,” meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
‘Trychineb’
Mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, yn cytuno ac yn dweud y basai eu “breichiau ar agor” i groesawu ffoaduriaid.
“Mae pethau yn ddrwg iawn yno yn anffodus, ac mae pobol yn dal i adael wlad,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r holl sefyllfa hon yn drychineb.
“Mae breichiau Ceredigion a Chymru gyfan ar agor i groesawu unrhyw un sydd angen help.”
‘Gwneud popeth posibl’
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru’r wythnos diwethaf y basen nhw’n “barod i chwarae rhan lawn” yn cefnogi pobl o’r Wcrain.
“’Dyn ni’n poeni’n fawr am y sefyllfa yn Wcráin,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“’Dyn ni’n meddwl am gymunedau yn yr Wcráin a phobol sy’n byw yma yng Nghymru sy’n poeni am ffrindiau ac aelodau o’r teulu.
“Mae Cymru yn Genedl Noddfa ac, os bydd angen, byddwn ni’n gwneud popeth posibl i sicrhau bod pobol Wcráin a’u teuluoedd yn gallu cyrraedd lle diogel a chael croeso yma.”
Geirfa
ffoaduriaid refugees
awdurdodau lleol local authorities
mewn egwyddor in principle
osgoi to avoid
yn ddibynnol ar dependent on
arweinydd leader
trychineb disaster
llefarydd spokesperson
Cenedl Noddfa Nation of Sanctuary