Dych chi’n hoffi cerdded? Dych chi’n hoffi dod o hyd i lefydd newydd i fynd am dro? Os dych chi’n mynd i Eisteddfod yr Urdd, mae gan Brân Davey o Ramblers Cymru syniadau am lefydd i gerdded yn ardal Sir Ddinbych…
Mae yna lawer o ddewis o lefydd gwych i ymweld â nhw yn ardal Sir Ddinbych. Felly beth am gymryd saib o’r Steddfod a mynd am antur i weld y golygfeydd godidog yn yr ardal a chysylltu efo byd natur…
Moel Famau, Bryniau Clwyd
Mae Moel Famau yn lle poblogaidd iawn. Ond mae bendant yn werth cerdded i’r copa. Ar ddiwrnod clir mi fedrwch chi weld draw at Eryri, Lerpwl ac arfordir gogleddol Cymru o’r copa.
Un o’r pethau sy’n sefyll allan yw lliwiau’r grug, sydd yn ychwanegu rhywbeth arbennig i’r dirwedd hon.
Mae digon o lefydd parcio yn agos, a llwybrau clir. Mae’n eitha’ syml i gerdded i’r copa efo dipyn o ymdrech. Pan wnaeth Ramblers Cymru gynnal gŵyl gerdded ar hyd Llwybr Clawdd Offa y llynedd, mi roedd yna lawer o deuluoedd yn ei fwynhau. Cofiwch fynd a phecyn bwyd a gallwch fwynhau diwrnod braf yn crwydro Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Llwybr Arfordir Cymru
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed eleni. Mae’n rheswm da i grwydro’r llwybr a mwynhau.
Conwy
Mae’r Castell yng nghanol Conwy yn werth ei weld. Mae’n Safle Treftadaeth y Byd. Beth am gynllunio taith gerdded i wneud y mwyaf o’r cyfle i weld yr ardal?
Mae’r daith gerdded tair milltir sy’n cysylltu Marina Conwy efo Marina Deganwy yn dechrau ym maes parcio Beacons. Mae’n ffordd dda o fwynhau’r arfordir yma.
Gallwch ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru, gan fynd heibio Gwarchodfa Natur Leol Coed Bodlondeb.
Mae golygfeydd panoramig dros Afon Conwy i’r ochr arall tuag at Ddeganwy. Cariwch ymlaen ar hyd y llwybr cyn disgyn lawr at y cei ac yna croesi’r bont gyferbyn â’r castell. Trowch i’r chwith ar ddiwedd y bont a dilyn yr arfordir at Marina Deganwy.
Sir y Fflint
Os dych chi’n mwynhau cerdded ar hyd yr arfordir yna mae opsiwn gwych wrth ymyl Talacre. Mae hwn yn lle arbennig i weld adar o bob math. Mae’r llwybrau yn addas ar gyfer pramiau.
Mae’r daith gerdded yn 2.5 milltir. Mae’n dechrau o’r maes parcio talu ac arddangos yng ngwaelod Ffordd yr Orsaf, wrth ymyl tafarn y Lighthouse.
Ar ddiwedd Ffordd yr Orsaf dringwch i ben yr arglawdd. Dilynwch y llwybr i’r dde sydd wedi ei arwyddo’n glir â marcwyr oren ‘Llwybr Cylchol Y Parlwr Du’.
Ychydig wedi hanner milltir gallwch weld cuddfan adar RSPB a gwylio’r adar a’r golygfeydd o’r aber.
Wedyn, dilynwch y marcwyr oren gan ddilyn llwybr glaswellt gyferbyn a’r lein trên cyn cyrraedd Canolfan Pentre’ Peryglon lle mae toiledau a chaffi.
Llyn Brenig
Mae Llyn Brenig lai na hanner awr o Ddinbych. Mae mwy na 25,000 erw o goedwigoedd, rhostiroedd a llynnoedd yno. Mae’n lle da ar gyfer teuluoedd.
Mae llawer o lwybrau hawdd a chymedrol sydd wedi eu marcio. Maen nhw’n amrywio o 2.5 milltir a 14.5 milltir o hyd. Mae yna ddigon o ddewis i chi yn dibynnu ar faint o amser sydd gennych a pha mor egnïol dych chi’n teimlo. Mae llawer o opsiynau eraill hefyd ar gyfer gweithgareddau awyr agored.
Cofiwch rannu eich lluniau gyda Ramblers Cymru trwy eu tagio nhw ar eich cyfryngau cymdeithasol.