Fe gafodd Apêl Ddyngarol Wcráin ei lansio gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC Cymru), sy’n cynnwys asiantaethau fel Achub y Plant, Y Groes Goch Brydeinig, Cymorth Cristnogol ac Oxfam Cymru.

Erbyn hyn, mae dros filiwn o bobol wedi gadael yr Wcráin dros yr wythnos diwethaf.

“Mae wedi bod yn glir iawn i ni fod pobl Cymru a’r Deyrnas Unedig eisiau helpu,” meddai Siân Stephen, sy’n cydlynu’r apêl ar gyfer DEC Cymru, wrth golwg360.

Blaenoriaethau

“Mae pedair elusen yn gweithio yn yr Wcráin yn barod, yn uniongyrchol neu drwy eu partneriaid lleol nhw, er enghraifft y Groes Goch Wcrainaidd,” meddai Siân Stephen.

“Mae elusennau eraill yn canolbwyntio ar wledydd sy’n ffinio â’r Wcráin i helpu’r ffoaduriaid sydd yn croesi’r ffin.

“Byddwn ni’n cefnogi teuluoedd gyda grantiau arian parod, pecynnau bwyd, dillad cynnes a chysgod.

Mae gofal iechyd yn uchel ar restr yr apêl, a byddan nhw’n darparu meddyginiaethau ac offer meddygol gyda’r arian sy’n cael ei gasglu.

Mae dŵr glân hefyd yn bwysig.

‘Maen nhw angen pob cymorth’

Mae DEC Cymru’n poeni y bydd y sefyllfa’n mynd yn waeth.

“Mae miliwn wedi gadael ers dydd Iau, 24 Chwefror, ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud y gallai hyd at 4 miliwn o bobol adael y wlad, meddai Siân Stephen.

Cyfrannu at yr apêl

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford, yn bresennol yn ystod y lansiad ar risiau’r Senedd heddiw, Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n rhoi £4m mewn cymorth dyngarol i’r Wcráin.

Mae Siân Stephen yn dweud fod gweld yr ymateb yng Nghymru hyd yn hyn yn “galonogol” a bod cymaint o bobol eisiau “estyn llaw at bobol sydd mewn angen.”

O ran yr apêl, hoffai Siân weld pobol yn rhoi arian yn gyntaf.

“’Dyn ni’n trio rhoi arian parod i bobol, achos nhw sy’n gwybod beth maen nhw ei angen nawr, a does dim lle ganddyn nhw i gario mwy o bethau. I roi arian, ewch i www.DEC.org.uk, neu ffonio’r rhif 0370 6060 900.

Gallwch hefyd anfon y neges destun ‘HELPU’ at 70150, sy’n cyfrannu £10 yn awtomatig.

Geirfa

cymorth dyngarol humanitarian help

cydlynu to coordinate

yn uniongyrchol directly

ffinio to border

ffoaduriaid refugees

cysgod shelter

meddyginiaethau medicines

offer meddygol medical equipment

Cenhedloedd Unedig United Nations

calonogol encouraging