Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £4m o gymorth ariannol a chymorth dyngarol i’r Wcráin i helpu pobol sy mewn angen.

Fel Cenedl Noddfa, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod Cymru’n barod i groesawu ffoaduriaid.

Hyd yn hyn, mae dros 660,000 o bobol wedi gadael yr Wcráin, ac mae Mark Drakeford wedi ysgrifennu at Lywodraeth Boris Johnson yn gofyn iddyn nhw helpu ffoaduriaid i ddod yma mor sydyn a diogel â phosib.

Cafodd rali ei chynnal tu allan i’r Senedd nos Lun er mwyn cefnogi’r Wcráin, a dywedodd Mark Drakeford yn y Senedd ddoe (1 Mawrth) bod Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda phobol yr Wcráin.

“Bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi £4m mewn cymorth dyngarol ac ariannol i’r Wcráin, a fydd yn helpu i pobol mewn angen,” meddai Mark Drakeford.

“’Dyn ni hefyd yn asesu offer meddygol sy dros ben a fasai’n gallu cael eu hanfon i’r wlad.

“Mae Cymru, fel Cenedl Noddfa, yn sefyll yn barod i groesawu pobol sy’n dod o’r Wcráin.

Geirfa

cymorth dyngarol    humanitarian aid

Cendl Noddfa          Nation of Sanctuary

ffoaduriaid              refugees

offer meddygol        medical equipment