Blodyn haul yw blodyn cenedlaethol yr Wcráin ac maen nhw wedi dod yn symbol o obaith ac o gefnogaeth i’r wlad.

Maen nhw wedi’u gweld ar ffrog a mwgwd Jill Biden, gwraig Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, ac roedd dynes o’r Wcráin yn gofyn i filwyr roi hadau yn eu pocedi fel y basai’r blodau’n tyfu lle basen nhw’n cwympo ar faes y gad.

Mae ymgyrchydd o Abertawe, sy’n cydweithio â mudiad Llais Wcráin Cymru (Voice of Ukraine Wales), yn dosbarthu hadau mewn ralïau ar draws y de, gan gynnwys y rali y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ac yn y Mwmbwls yn Abertawe.

Yn ogystal â dangos cefnogaeth, mae’r hadau hefyd yn ffordd o wneud yn siŵr bod arian yn cael ei anfon o Gymru i’r Wcráin i helpu pobol yn y wlad.

“Yn syml iawn, y blodyn haul yw blodyn cenedlaethol yr Wcráin,” meddai Tomos Williams-Mason, un o’r bobl sy’n trefnu’r ymgyrch.

“A hefyd, maen nhw’n flodau eithaf hawdd eu tyfu.

“Fy modryb yw un o drefnwyr Llais Wcráin Cymru. Roedd hi’n poeni, pan ddechreuodd popeth yr wythnos diwethaf, nad oedd hi’n gwybod beth i’w wneud i helpu pobl yr Wcrain. Roedd hi’n helpu i drefnu’r ralïau a phenderfynon ni werthu hadau blodau haul hefyd.

Blodau poblogaidd

“Yn y rali yng Nghaerdydd ddydd Llun, siaradodd Adam Price am y am y blodau haul yn ei araith. Siaradodd e am symbolaeth y blodyn haul, a’r cysylltiad â chennin pedr a rhannu diwylliannau.”

Mae’n dweud bod pobol yn hoffi ymgyrch y blodau haul, a bod yr ymgyrch “wedi mynd braidd yn wyllt”.

“Pan aethon ni i’r ralïau yn y Mwmbwls a Chaerdydd, roedd pobol yn rhoi papurau £10, £20, £50 i ni.

“Mae pobol wedi bod yn gofyn am hadau i’r swyddfa neu i’w plant, a ’dyn ni’n gobeithio eu gwerthu nhw ar dudalen Instagram, a’u postio nhw at bobol sy’n methu dod i’r ralïau.

“’Dyn ni’n gobeithio bod yn y rali ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau, Mawrth 3 os gallwn ni gael digon o becynnau o hadau blodau haul, ond ’dyn ni hefyd wedi anfon rhai at fyfyrwyr. Byddan nhw’n gallu eu gwerthu nhw yn y rali.

“’Dyn ni wedi gwagio pob Wilko’s yn ne Cymru! Gobeithio bydd pobol yn gallu defnyddio PayPal neu drosglwyddiad banc cyn bo hir, ond mae popeth mor newydd i ni.

Sut mae pobl yn gallu helpu?

Mae Tomos Williams-Mason yn dweud ei bod hi’n bosib helpu pobl yr Wcráin mewn sawl ffordd.

“Mae llawer o bobol yn rhoi dillad, ond mae hi bron yn amhosib weithiau i gael popeth allan i’r Wcráin, felly mae’n bosib rhoi arian. ’Dyn ni’n codi arian trwy werthu blodau haul.

“Ond hefyd, mae’n golygu fod gan bobol yng Nghymru flodau haul yn eu gerddi am fisoedd i ddod.

Geirfa

hadau seeds

maes y gad battlefield

ymgyrchydd campaigner

mudiad movement

dosbarthu to distribute

araith speech

diwylliannau cultures

braidd yn wyllt rather wild

gwagio to empty

trosglwyddiad banc bank transfer