Mae “nifer o gynlluniau cyffrous newydd” yn rhan o gyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gael mwy o addysg Gymraeg, ond “nid da lle gellir gwell”, meddai mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG).

Mae Elin Maher o RhAG yn croesawu’r cyhoeddiad a’r 11 prosiect i helpu’r Gymraeg, ond mae yna lawer iawn mwy o brosiectau sy angen arian, meddai.

Yn ôl RhAG, mae’r cyhoeddiad yn dangos yr angen i gael ysgolion Cymraeg newydd mewn ardaloedd newydd.

Mae’r cynlluniau mewn naw sir dros Gymru yn cynnwys agor ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Mwcle / Mynydd Isa yn Sir y Fflint, ac ysgol Gymraeg ym Mhorthcawl.

Hefyd, mae’r cynlluniau’n cynnwys mwy o gapasiti mewn ysgolion Cymraeg, agor Canolfannau Trochi Cymraeg a chael mwy o ddarpariaeth trochi iaith.

‘Ardaloedd newydd’

Mae RhAG yn croesawu’r cynlluniau ond mae angen llawer mwy o arian na £30m, meddai Elin Maher wrth golwg360.

“Mae yna nifer o gynlluniau cyffrous newydd. Mae’n dda gweld yr ysgolion newydd yn Sir y Fflint ac ym Mhorthcawl.  Mae sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn araf iawn yn datblygu addysg Gymraeg yn ardal Porthcawl, felly ’dyn ni’n croesawu hynny â breichiau agored”, meddai Elin Maher.

Mae RhAG yn croesawu’r cynlluniau i gael mwy o leoedd i blant yn Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn Sir Benfro. Mae galw am lefydd yno.

Mae Elin Maher yn dweud eu bod nhw’n falch o weld bod yr arian i’r canolfannau trochi iaith yng Ngwynedd unwaith eto.

‘Nid da lle gellir gwell’

Ond mae Elin Maher hefyd yn gofyn i Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, chwilio am fwy o arian i wneud “mwy o gwaith da” dros y blynyddoedd nesaf.

“Nid da lle gellir gwell…rydyn ni’n gwybod bod yna lot mwy o brosiectau eraill sy angen arian hefyd,” meddai.

“Mae angen ysgolion newydd mewn ardaloedd newydd. Mae addysg Gymraeg yn dal i fod yn anhygyrch i’r rhan fwyaf o’n teuluoedd achos bod rhaid teithio’n bellach i ysgolion Cymraeg. Dylai addysg Gymraeg fod yn rhywbeth normal yn y gymuned.

‘Angen strategaeth hirdymor’

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y prosiectau yn “werthfawr”, ond mae angen strategaeth hirdymor ar gyfer addysg Gymraeg.

 

Geirfa

Nid da lle gellir gwell        Could do better

cyhoeddiad                      announcement

mudiad                            movement

canolfannau Trochi           Immersion Centres

darpariaeth                      provision

anhygyrch                        inaccessible

gwerthfawr                      valuable

strategaeth hirdymor        long term strategy