Mae’r mudiad Wish I Spoke Welsh yn lansio ymgyrch heddiw (dydd Mawrth, Hydref 25) yn galw ar Lywodraeth Cymru am addysg Gymraeg i bawb.

Maen nhw’n gofyn i bobol lofnodi deiseb.

Maen nhw eisiau addysg Gymraeg i bob plentyn tra bod y Bil Addysg Gymraeg mewn grym.

“Fel rhywun a aeth i ysgol Saesneg, dw i bob amser wedi dymuno fy mod i’n gallu siarad Cymraeg,” meddai Luke Johns, y prif ddeisebydd ac un o drefnwyr Wish I Spoke Welsh.

“Dw i’n credu bod y Gymraeg i bawb.

Dylid rhoi‘r cyfle i bob plentyn ddysgu ein hiaith, a dyna pam dw i’n falch o fod yn rhan o lansio’r ddeiseb hon fel rhan o Wish I Spoke Welsh, i wneud yn siŵr does dim un plentyn yn cael ei adael ar ôl fel y ces i.

“Dylai ein hiaith fod i bawb, nid i’r rhai ffodus yn unig.”

“Mae pob plentyn sy’n byw yng Nghymru – ym mha bynnag ardal o’r wlad ac o ba bynnag gefndir – yn haeddu bod yn rhugl yn y Gymraeg,” meddai Carl Morris, trefnydd arall Wish I Spoke Welsh.

“Ar hyn o bryd, mae 80% o blant Cymru yn cael eu hamddifadu o’r sgil o allu siarad Cymraeg,” meddai Osian Rhys, trefnydd arall Wish I Spoke Welsh.

“Gall Bil Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru unioni hyn drwy osod nod statudol y bydd pob disgybl yng Nghymru yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

“Mae rhoi’r Gymraeg hyd at ruglder i bawb yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.”