Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi dweud y bydd disgyblion ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael mynd yn ôl i’r ysgol cyn y Pasg.

Gwnaeth hi’r cyhoeddiad mewn fideo ar ei thudalen Twitter.

Mae hi eisiaui i’r plant gael amser gyda’u hathrawon, gyda ffocws ar gefnogi lles a pharatoi i fynd yn ôl yn llawn ar ôl y gwyliau.

Ar Fawrth 15, mae disgwyl i ddisgyblion 7 i 11 oed, disgyblion ym mlynyddoedd 10 a 12 a disgyblion sy’n gwneud arholiadau eleni fynd yn ôl i’r ysgol. A bydd pobl ifanc sy’n gwneud cymwysterau mewn colegau yn mynd yn ôl hefyd.

Mae disgyblion dan 7 oed yn ôl mewn ysgolion cynradd ers Chwefror 22.

‘Prif flaenoriaeth’

Mae agor ysgolion a cholegau i bob disgybl yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Diolchodd Kirsty Williams i bawb sy’n gweithio mor galed i roi croeso i’r disgyblion ifanc sy yn yr ysgolion ar hyn o bryd.

Mae hi eisiau gweld pob dysgwr yn ôl yr ysgolion, colegau a lleoliadau hyfforddiant yn llawn ar ôl gwyliau’r Pasg. Fydd disgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 ddim yn mynd yn ôl yn llawn ar 15 Mawrth ond byddan nhw’n cael cyfle i gwrdd â’u hathrawon.

“Gyda’n gilydd byddwn ni’n cadw Cymru’n ddiogel, a gyda’n gilydd byddwn ni’n gwneud yn siŵr bod dysgwyr Cymru’n dal ati i ddysgu,” meddai Kirsty Williams.

Geirfa

cyhoeddiad                           announcement

lles                                      welfare

cymwysterau                        qualifications

prif flaenoriaeth                    main priority

lleoliadau hyfforddiant           training locations

dal ati                                   to keep at it