Bydd Bil yn Senedd Cymru i annog pobl i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain [BSL – British Sign Language] yng Nghymru.
Pwrpas y Bil fydd helpu pobl fyddar sy’n defnyddio iaith arwyddion, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.
Bydd rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi cynllun i wella gwasanaethau, cymorth a sgiliau BSL.
Mark Isherwood gododd y pwnc yn y Senedd. Mae e’n defnyddio offer clyw. Yn ôl Mark Isherwood, dyw’r gyfraith ar hyn o bryd ddim yn cwrdd â gofynion defnyddwyr BSL na’r gymuned fyddar ehangach.
Cafodd Bil BSL Yr Alban ei basio ym mis Medi 2015.
Mae Cymdeithas Brydeinig y Byddar wedi disgrifio’r datblygiadau yma yng Nghymru yn “gam anferthol ymlaen”.
“Does gan BSL ddim statws cyfreithiol o fewn addysg”
Mae David Rader, sy’n arbenigwr ar fyddardod, yn croesawu’r newyddion. Yn wreiddiol o Lundain ond erbyn hyn yn siaradwr Cymraeg rhugl, cafodd David Reader ei fagu gan rieni oedd yn fyddar.
Ac felly o’r dechrau roedd o a’i frawd, John, yn defnyddio iaith arwyddion yn y cartref.
Yn aml mae pobl yn gofyn iddo: sut wnaethoch chi ddysgu iaith arwyddion?
“Fy ateb ydi: fel dysgu unrhyw iaith arall – drwy fod yn agored iddi!” meddai cyn mynd ymlaen gyda’i stori.
“Roedd fy rheini yn adnabod ei gilydd yn yr ysgol – aeth y ddau i ysgol ar gyfer plant byddar yn Margate. Ac fe ddysgon nhw iaith arwyddion yn yr ysgol gan y plant eraill. Doedd dim athrawon byddar yn yr ysgol.
“Does gan BSL ddim statws cyfreithiol o fewn addysg a dydy hi ddim yn hawdd i bobl plentyn gael mynediad at iaith arwyddion.
“Mae dal cryn bwyslais ar geisio cael plant byddar i siarad a darllen gwefusau a defnyddio Saesneg, sydd i mi yn hollol hurt. Mae o’n llawer iawn gwell dysgu plant yn eu hiaith eu hunain. Ac unwaith maen nhw wedi dysgu un iaith maen nhw’n gallu dysgu ail iaith,” meddai.
Roedd David Reader wedi cyfarfod â’i wraig Eira Gwawr o Bwllheli pan oedd y ddau’n fyfyrwyr yn Llundain. Ar ôl priodi a dechrau teulu fe wnaethon nhw godi pac a dod i fyw a gweithio i ardal Dwyfor o Wynedd ble dysgodd David Reader I siarad Cymraeg
“Roedden ni isio i’r plant gael addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai.
Mae David ac Eira’n nyrsio ac roedd swydd gynta’ David Reader yng Nghymru ym maes iechyd meddwl. Fe ddringodd drwy’r rhengoedd a dod yn nyrs arbenigol ar gyfer iechyd meddwl a byddardod yng ngogledd Cymru. Mae o wedi cyhoeddi nifer o bapurau am y rhwystrau mae’r gymuned fyddar yn eu hwynebu.
Geirfa
annog to encourage
byddar deaf
cyrff cyhoeddus public bodies
offer clyw hearing aids
y gymuned fyddar ehangach the wider deaf community
byddardod deafness
statws cyfreithiol legal status
Mae dal cryn bwyslais There is still a great emphasis
iechyd meddwl mental health
Fe ddringodd drwy’r rhengoedd He climbed through the ranks
rhwystrau obstacles, hurdles