Mae’r heddlu yn dweud wrth bobl am fod yn ofalus ar ôl i gerddwr fynd ar goll am oriau mewn tywydd gwael ar Fannau Brycheiniog.

Treuliodd y wraig, 50 oed, chwe awr ar goll ar fynydd yng nghanol niwl a glaw trwm.

Mae’r wraig wedi diolch i Heddlu Dyfed-Powys a Thîm Achub Mynydd Bannau’r Gorllewin am ddod o hyd iddi hi pan oedd hi wedi colli gobaith.

Dywedodd: “Fi yw’r person mwyaf lwcus yn y byd i fod yma heddiw. Dw i’n gwybod bod y mynydd yn beryglus a do’n i ddim wedi paratoi yn iawn. Rhoiais i fy hun , yr heddlu a’r tîm achub mewn mewn perygl.

Mynd â’r ci am dro cyflym

Roedd y fam i ddau o blant wedi mynd allan am dro cyflym gyda’i chi ar y Mynydd Du ger Brynaman. Mae hi’n nabod y llwybr yn dda iawn ond cafodd hi ei dal allan yn gyflym gan wynt cryf, niwl a glaw trwm.

“Ceisiais i droi’n ôl i’r car, ond fe wnaeth y gwynt fy nharo i lawr,” meddai.

“Yna dechreuodd y glaw, ac roedd yn taro fy wyneb fel bwledi. Roeddwn i’n ceisio mynd yn ôl i’r car, ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd iddo fe.

Erbyn chwech o’r gloch, roedd y wraig yn gallu gweld ychydig o fetrau o’i blaen hi yn unig, a gyda’i batri ffôn i lawr i 19% roedd hi’n gwybod bod yn rhaid iddi hi ffonio am help.

Ffonio 999

Defnyddiodd hi’r ap What Three Words, sy’n rhoi tri gair i ddisgrifio’r lleoliad, a ffonio 999.

Ond achos roedd signal y ffôn yn wael, doedd yr ap ddim wedi disgrifio’r lleoliad yn gywir. Aeth yr heddlu a’r criw achub i’r lle anghywir.

“Roeddwn i’n codi bob ychydig funudau felly wnes i ddim cael hypothermia, a gweiddi ‘helo’ rhag ofn bod unrhyw un o gwmpas,” meddai.

“Doeddwn i ddim yn gallu gweld dim byd.

“Ffoniais i 999 eto i ddweud wrthyn nhw fy mod yn dal yn yr un lle.

“Ond pan edrychais i ar yr ap What Three Words eto, gwelais i fy mod i mewn lle hollol wahanol i ble roedden nhw’n chwilio amdana i.

Ychydig funudau wedyn, ffoniodd y Tîm Achub Mynydd – wrth i fatri ei ffôn farw.

Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n mynd i farw ar y mynydd,” meddai.

Yn y pen draw, clywodd hi ychydig o sŵn, ond doedd hi ddim yn gwybod o ble roedd y sŵn yn dod. Yna gwelodd hi olau bach.

“Fe wnes i gydio yn y ci a dechrau rhedeg tuag at golau,” meddai.

“Erbyn hynny roeddwn i’n sgrechian ac yn gweiddi, ac yn sydyn roedd mwy o oleuadau. Roedd un o’u tortshys wedi dal fflach o lygaid y ci. Doedden nhw ddim yn gallu fy ngweld i.

“Roeddwn i’n meddwl ‘rydyn ni’n mynd i fyw’, ac roeddwn i’n gwybod baswn i’n gweld fy mhlant i eto.”

Ar ôl cerdded am 40 munud, roedd hi ar ei ffordd adref – chwe awr ar ôl gadael ei char.

Dywedodd Sarjant Dylan Davies, o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae’r digwyddiad hwn yn dangos, er eich bod chi’n meddwl eich bod yn ddiogel, dych chi’n gallu rhoi eich hun ac eraill mewn perygl.”

Geirfa

Bannau Brycheiniog                       Brecon Beacons

Tîm Achub                                      Rescue Team

mewn perygl                                   in danger

ychydig o fetrau o’i blaen               a few metres in front of her

lleoliad                                            location

yn y pen draw                                 in the end

cydio (yn)                                        to grab

fflach                                              flash

 

Bannau Brycheiniog

Rhybudd wedi i gerddwr profiadol fynd ar goll mewn niwl tew a glaw yn y Bannau

Mam 50 oed wedi bod ar goll am chwe awr – er mai ei bwriad oedd chwarter awr o dro cyn troi am adref