Llywodraeth Cymru sy biau Maes Awyr Caerdydd ac maen nhw’n mynd i fuddsoddi rhagor o arian yn y maes awyr. Mae Covid wedi bod yn ofnadwy i’r diwydiant hedfan ac felly bydd y Llywodraeth yn cynnig grant o hyd at £42.6 milwn i’r maes awyr. Byddan nhw hefyd yn dileu £42.6 miliwn o ddyled y maes awyr.
Yn ôl Ken Skates ar ran Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn helpu “cynnal hyd at 5,200 o swyddi anuniongyrchol”.
Beth am fusnesau bach?
Mae Russell George, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn poeni am fusnesau bach.
“Mae llywodraethau ledled y byd yn cefnogi’r diwydiant hedfan,” meddai. Ond mae miloedd o fusnesau bach ledled yn galw mas am help”.
‘Dim cymorth’ o Lundain
Mae Ken Skates yn beio Llywodraeth San Steffan yn Llundain am sefyllfa anodd y maes awyr. Dyw Maes Awyr Caerdydd ddim wedi cael unrhyw gymorth uniongyrchol gan San Steffan. Mae e’n dweud basen ni’n colli’r maes awyr tasai Llywodraeth Cymru ddim yn helpu.
Geirfa
buddsoddi to invest
dileu to delete, to wipe out
anuniongyrchol indirect
beio to blame
uniongyrchol direct