D’yw rhai o bobl Abertawe ddim yn hoffi pont newydd ar Heol Ystumllwynarth yn y ddinas.
Mae’r bont yn cysylltu canolfan newydd gyda llwybr ger y traeth.
Bydd y ganolfan newydd (gwerth £135m) yn barod yn hwyrach eleni a chafodd y bont ei rhoi yno ar nos Sadwrn.
Mae Pont y Bae Copr yn 160 troedfedd (49m) ac mae’n cysylltu un ochr Heol Ystumllwynarth â’r llall.
Cafodd y ffordd ei chau dros nos er mwyn gorffen y gwaith, a bydd y bont yn cael ei hagor i gerddwyr a seiclwyr cyn diwedd y flwyddyn.
Mae Rob Stewart, arweinydd Cyngor Dinas A Sir Abertawe, yn dweud y bydd y bont yn “symbol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol” o ddatblygiad y ddinas.
Ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol
Ond mae’n ymddangos nad yw rhai o bobl Abertawe’n hoffi’r bont.
Mae rhai pobl yn meddwl bod y bont yn edrych fel tortilla, mae eraill yn gweld bar siocled Crunchie ac eraill yn gweld cramwythen.
Geirfa
Pont y Bae Copr Copper Bay Bridge
datblygiad y ddinas the development of the city
Cramwythen crumpet