Bydd plant ysgolion cynradd Cymru yn mynd yn ôl i’r ysgol yr wythnos nesaf.
Ar ôl i’r plant ifancaf ddechrau mynd yn ôl i’r ysgol dros yr wythnosau diwethaf, dwedodd Kirsty Williams mai’r gobaith yw y bydd pob disgybl yng Nghymru yn ôl yn yr ysgol ar ôl gwyliau’r Pasg.
“Mae wedi bod yn wych gweld ein dysgwyr ifancaf yn ôl yn yr ystafell ddosbarth gyda’u ffrindiau dros y pythefnos diwethaf,” meddai Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru.
“Yr wythnos nesaf, byddwn ni’n gweld pob plentyn yn mynd yn ôl I’r ysgolion cynradd, rhai grwpiau o ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd, a mwy o fyfyrwyr coleg.
Fe aeth holl ddisgyblion cynradd ac uwchradd Lloegr yn ôl i’r ysgol heddiw.
£72 miliwn ychwanegol
Mae’r Gweinidog Addysg hefyd wedi cyhoeddi £72 miliwn i gefnogi dysgwyr fel rhan o’r ymateb i helpu dysgwyr: £239 i bob disgybl – y swm uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Ers mis Gorffennaf y llynedd, mae 1,800 o staff ysgol amser llawn ychwanegol wedi cael eu recriwtio mewn ysgolion ledled Cymru, dwbl y targed gwreiddiol o 900.
“Dw i’n gwybod bod angen cymorth ychwanegol, yn enwedig i ddysgwyr sy mewn cyfnodau allweddol,” meddai Kirsty Williams.
“Wrth i ddysgwyr ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, rydyn ni eisiau helpu ein pobl ifanc.”
Miliynau o brofion wedi eu hanfon i ysgolion
Diolchodd y Gweinidog Addysg i staff am gefnogi’r rhaglen brofi mewn ysgolion.
Erbyn diwedd yr wythnos mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio bydd mwy na phum miliwn o brofion llif unffordd wedi cyrraedd ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant ledled Cymru.
Ond dwedodd y Gweinidog Addysg nad oedd y profion yn orfodol.
“Bydd myfyrwyr yn gallu cael derbyn addysg heb gymryd y prawf”, meddai.
Gweinidog Addysg Minister of Education
ymateb response
ychwanegol additional
cyfnodau allweddol key stages
wyneb yn wyneb face to face
rhaglen brofi testing programme
profion llif unffordd lateral flow tests
gorfodol compulsory