Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi enwi ei dîm i chwarae yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn.
Bydd Cory Hill a Gareth Davies yn dechrau’r gêm.
Mae’r mewnwr Gareth Davies yn cymryd lle Kieran Hardy, sy wedi anafu ei goes.
Mae Cory Hill wedi ei enwi yn lle Adam Beard yn yr ail reng, a gallai Jake Ball ennill ei 50fed cap oddi ar y fainc.
“’Dyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y penwythnos hwn,” meddai prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.
‘”Mae ennill tri o dri yn ddechrau gwych ond mae digon o waith i’w wneud o hyd.
“’Dyn wedi cael pythefnos i baratoi ar gyfer y gêm hon, ‘dyn ni wedi hyfforddi’n dda iawn yn yr wythnos hon a ‘dyn ni’n edrych ymlaen at rownd 4.”
Tîm Cymru
Olwyr: 15. Liam Williams, 14. Louis Rees-Zammit, 13. George North, 12. Jonathan Davies, 11. Josh Adams, 10. Dan Biggar, 9. Gareth Davies
Blaenwyr: 1. Wyn Jones, 2. Ken Owens, 3. Tomas Francis, 4. Cory Hill, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. Josh Navidi, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau
Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Rhys Carré, 18. Leon Brown, 19. Jake Ball, 20. Aaron Wainwright, 21. Lloyd Williams, 22. Callum Sheedy, 23. Uilisi Halaholo
Geirfa
hyfforddwr trainer
enwi to name
mewnwr scrum half
anafu to injufe
yr ail reng the second row
y fainc the bench
hyfforddi to train
olwyr backs
blaenwyr forwards
eilyddion substitutes