Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe, sy wedi bod dan glo yn Iran ers 2016, yn cael tynnu ei thag electronig bellach, ond bydd yn rhaid iddi fynd yn ôl i’r llys yr wythnos nesaf.
Mae hi’n 42 oed ac mae pasbort Prydeinig ac Iranaidd gyda hi.
Cafodd hi ei charcharu bum mlynedd yn ôl ar ôl cael ei harestio ym maes awyr Tehran yn ystod gwyliau gyda’i merch fach i fynd i weld ei rhieni.
Mae ei gŵr, Richard, a’u merch fach, Gabriella, wedi bod yn aros am newyddion amdani hi, a’r gobaith yw y bydd hi’n cael mynd adref i ogledd Llundain cyn hir.
Mae hi wedi bod dan glo yng nghartref ei rhieni yn Tehran ers iddi hi adael y carchar y llynedd.
Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud eu bod nhw’n gweithio gyda’r teulu ac yn parhau i’w cefnogi nhw.
Geirfa
dan glo locked up
parhau i’w cefnogi nhw continuing to support them