Mae pum busnes garddwriaethol bach yng Nghymru wedi cael grantiau i’w helpu nhw i dyfu mwy o lysiau ar gyfer eu cymunedau.

Mae’r grantiau’n dod gan y Loteri Genedlaethol. Maen nhw’n werth rhwng £2,5000 a £5,000 ac maen nhw i fusnesau bach. Pwrpas y project yw annog pobl i fwyta’n iach.

Un busnes sy wedi cael grant yw Cwmni Buddiannau Cymunedol Glasbren ym Mancyfelin ger Caerfyrddin yn ne-orllewin Cymru.

Y llynedd roedd y cwmni cymunedol yma’n bwydo 40 o deuluoedd drwy eu cynllun bocsys llysiau. Dwedodd Abel Pearson o’r cwmni:

“Diolch i’r grant, ’dyn ni’n  gallu ymestyn y sied pacio llysiau ac felly’n gallu tyfu mwy o lysiau. Ry’n ni’n cynnig bocsys llysiau wythnosol drwy ddefnyddio technegau ecolegol.”

“Ry’n ni’n ceisio dal dŵr glaw a defnyddio cymaint o olau dydd â phosib, a ‘dyn ni’n defnyddio gwrtaith naturiol yng Nglasbren” meddai’r tyfwr llysiau.

“Mae diddordeb gyda ni yn iechyd y pridd ac iechyd y bobol sy’n bwyta’r bwyd sy’n dod o’r pridd yma.”

Sefydlodd Abel Pearson Glasbren bedair blynedd yn ôl ar fferm deuluol Bronhaul ble cafodd e ei fagu.

Dros y tair blynedd diwethaf mae Glasbren wedi bod yn gwneud bocsys llysiau o fis Mehefin tan fis Rhagfyr. Ond eleni bydd hi’n wahanol.

“Eleni ’dyn ni’n dechrau ym mis Mawrth tan fis Rhagfyr, a ‘dyn ni eisiau gwneud rhwybeth trwy’r flwyddyn”

Dim llysiau o dramor

Mae llawer o fusnesau’n mewnforio llysiau o Ewrop ar gyfer y gaeaf, ond dyw Glasbren ddim yn gwneud hynny, eglurodd Abel Pearson wrth gylchgrawn Golwg.

Mae Glasbren yn rhoi taflen newyddion yn y bocsys llysiau. Mae’r daflen yn egluro ethos Glasbren ac yn cynnig rysetiau ar gyfer y llysiau.

“Mae’r model yma’n gweithio’n dda i ni – dyw pobol ddim yn cael dewis beth sy yn y bocsys ond mae’r llysiau bob amser yn dymhorol

Fel sawl busnes tebyg arall, dechreuodd Glasbren ddosbarthu bocsys yn ystod y cyfnod clo. Maen nhw’n dosbarthu o fewn 10 milltir.

“Mae rhai cwsmeriaid yn byw yn bellach na 10 milltir ond maen nhw’n dod i Gaerfyrddin neu i’r fferm i gasglu eu bocs llysiau.”

Tyddyn Teg

Dri mis yn ôl roedd stori yn Golwg am fferm gydweithredol Tyddyn Teg sy rhwng pentrefi Llanrug a Bethel yng ngogledd Gwynedd. Mae deg o bobl yn gweithio yno ac yn bwydo 150 o deuluoedd bob wythnos gyda’u bocsys llysiau organig.

Maen nhw hefyd yn cyflenwi tair siop leol, rhai busnesau bwyd, ac yn rhedeg siop fferm.

Roedd Tyddyn Teg yn ysbrydoliaeth i Abel Pearson sefydlu Glasbren yn Sir Gaerfyrddin.

“Roeddwn i’n gwybod am eu gwaith nhw a dw i eisiau mynd yno i’w gweld nhw.  Mae model Tyddyn Teg wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni yma.”

Geirfa

garddwriaethol            horticultural

annog                         to encourage

ymestyn                      to extend

technegau ecolegol      ecological techniques

gwrtaith naturiol          natural compost

iechyd y pridd              the health of the soil

sefydlu                        to establish

mewnforio                   to import

ryseitiau                      recipes

tymhorol                     seasonal

dosbarthu                    to distribute

cyflenwi                       to supply

ysbrydoliaeth               inspiration

Ariannu busnesau bach eco-gyfeillgar i dyfu llysiau lleol

Sian Williams

Mae pum busnes garddwriaethol bach yng Nghymru wedi derbyn grantiau i’w helpu i gynhyrchu mwy o lysiau ar gyfer eu cymunedau

Y fferm organig sy’n parchu’r pridd

Sian Williams

Mae fferm gydweithredol yn y gogledd yn defnyddio dulliau o dramor i dyfu bwyd yn organig