Mae dros 100 o elusennau Prydain wedi dweud bod y llywodraeth yn anghywir i dorri arian cymorth i Yemen.
Mae’r llywodraeth wedi addo £87 miliwn eleni, o gymharu â £160 miliwn y llynedd a £200 miliwn yn 2019.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog Boris Johnson, mae’r elusennau’n dweud y bydd troi cefn ar bobl Yemen yn distrywio enw da Prydain “fel gwlad sy’n helpu’r rhai mewn mwyaf o angen”.
Mae’r elusennau sy wedi anfon y llythyr yn cynnwys Oxfam, Cymorth Cristnogol, Achub y Plant a Care International.
Roedd Llywodraeth Prydain yn rhoi 0.7% o’r incwm cenedlaethol i wledydd tramor ond maen nhw’n torri hyn i 0.5%. Mae’r elusennau eisiau gweld y Llywodraeth yn codi’r swm i 0.7% eto.
Yn y cyfamser, mae’r wefan openDemocracy wedi cyhoeddi adroddiad cyfrinachol gan y Swyddfa Dramor sy’n dangos bod y Llywodraeth hefyd eisiau torri cymorth i wledydd lle mae rhyfel: toriad o 67% i Syria, toriad i 63% i Libya, toriad o 60% i Somalia a thoriad o 59% mewn cymorth i Dde Swdan.
Mae’r Blaid Lafur wedi dweud bydd pobl yn marw os bydd y Llywodraeth yn gwneud y toriadau yma.
Geirfa
elusennau charities
addo to promise
distrywio to destroy
yn y cyfamser in the meantime
adroddiad cyfrinachol confidential report
toriad cut, cutback