Mae bron 2,000 o bobl wedi llofnodi deiseb sy’n galw am wario mwy o arian ar y Llydaweg.
Mae NHU Bretagne yn grŵp sy’n ymgyrchu dros y Llydaweg. Yn ôl NHU, dim ond 2 ewro’r flwyddyn sy’n cael ei wario ar gyfer pob person ar yr iaith Lydaweg. Yng Nghymru, y swm yw 20 ewro.
“I ddatblygu Llydaweg yn Llydaw, ‘dyn ni eisiau cael 20 ewro, yn raddol, o fewn pum mlynedd.
“Mae’n bosib bydd y Llydaweg yn diflannu. Helpwch ni i achub ein hen iaith Geltaidd.”
Wrth siarad â golwg360 am y ddeiseb a sefyllfa’r Llydaweg, mae’r bardd a’r hanner Llydäwr Aneirin Karadog yn dweud:
“Mae’r Llydaweg yn colli tir yn gyflym iawn, ac mae nifer fawr o’r siaradwyr Llydaweg rhwng 65-80 oed
“Mae’r iaith yn dibynnu ar siaradwyr brodorol cryf.
“Rydyn ni’n poeni am y Gymraeg yng Nghymru, ond mae’r ieithoedd Celtaidd eraill yn edrych at y Gymraeg fel iaith sy’n llwyddo.
“’Dyn ni’n gallu helpu ein brodyr a’n chwiorydd Brythoneg.”
Mae Aneirin Karadog yn cefnogi’r ddeiseb, gan ddweud bod angen gwario mwy o arian ar y Llydaweg.
Geirfa
llofnodi deiseb to sign a petition
Llydaweg the Breton language
ymgyrchu to campaign
yn raddol gradually
diflannu to disappear
achub to save
sefyllfa situation
siaradwyr brodorol native speakers
llwyddo to succeed