Dyw Llywodraeth Cymru ddim “ar hyn o bryd” yn mynd i agor clinigau arbenigol ar gyfer covid hir.
Mae rhai pobl sy’n dal y coronafeirws yn dioddef effeithiau hirdymor, ac mae rhai o’r bobl yna wedi cael cyfle i siarad yn y Senedd.
Long Covid Wales yw enw’r grŵp oedd yn siarad yn y Senedd, ac mae’r aelodau eisiau gweld clinigau arbenigol ledled Cymru er mwyn trin pobl sydd â covid hir.
Dywedodd Vaughan Gething fod y Llywodraeth ddim yn mynd i agor y clinigau arbenigol yma “ar hyn o bryd”.
Mae Cymru’n trin cleifion “trwy ddod â’r gweithwyr proffesiynol allied [nyrsys, fferyllwyr ayyb], ein therapyddion, meddygon teulu, a doctoriaid eraill at ei gilydd.
“Felly dydyn ni ddim, ar hyn o bryd, yn mynd i agor clinigau arbenigol.”
Dwedodd y gweinidog bod covid hir yn “wahanol i bobol wahanol” .
Y ddadl o blaid clinigau
Yn siarad â Phwyllgor Iechyd y Senedd roedd Georgia Walby, aelod o Long Covid Wales sydd â covid hir.
“Mae angen y clinigau yma achos mae angen un lle ar gael triniaeth. Mae’n anodd mynd at wasanaethau gwahanol. Does dim egni gyda chi.”
Siaradodd hi am ei symptomau hi: rhithweledigaethau, blinder, pen tost, trafferth yn cerdded, a “brain fog”.
Geirfa
clinigau arbenigol specialist clinics
dioddef effeithiau hirdymor to suffer long-term effects
trin to treat
triniaeth treatment
rhithweledigaethau hallucinations