Cyn-hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru Chris Coleman yw’r seren ddiweddaraf i benderfynu dysgu siarad Cynmraeg.

Mae Chris yn arwr i’r genedl ers iddo arwain y tîm ar daith fythgofiadwy i rowndiau cynderfynol yr Ewros yn 2016.

Nawr mae o’n mynd ar daith hollol wahanol – i ddysgu Cymraeg ac efallai gwireddu breuddwyd hefyd yn y gyfres Iaith ar Daith ar S4C, Nos Sul Mawrth 28.

Meddai: “Pan oni’n chwaraewr dros Gymru, oni’n gwneud cyfweliadau yn Saesneg, ond oni bob tro wir eisiau bod gyda’r gallu i wneud hyn yn y Gymraeg. Ac wedyn wrth fod yn rheolwr – wnes i lawer o gyfweliadau yn y Saesneg ac roedd bob tro rhyw deimlad o euogrwydd mod i ddim yn gallu siarad Cymraeg ac annerch y siaradwyr Cymraeg.

“Mae e wedi bod yna yng nghefn fy meddwl erioed . . . efallai rhyw ddydd bydda i’n dysgu Cymraeg . . . ”

‘Ysbrydoliaeth’ yn yr ystafell newid

Meddai: “Rwy’n gobeithio bydd y daith yn debyg i fy nhaith fel rheolwr Cymru. Ges i ddim y dechrau gorau ond yn y diwedd fe wnaethom ni lwyddo gwneud yn oce!”

I helpu Chris gyrraedd y nod ac i osod sawl her iddo yn ystod y daith, bydd y cyflwynydd a chyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Owain Tudur Jones.

Meddai Owain: “Roedd Chris yn rheolwr arna’ i yng ngharfan Cymru – roedd ei ysbrydoliaeth o yn yr ystafell newid mor bwysig ond dim fo ‘di’r rheolwr y tro hwn – fi sydd in charge – fi ‘di’r bos!”

Mae’r daith yn dechrau ar safle’r hen gae Vetch yn Abertawe lle ddechreuodd Chris ar ei yrfa fel chwaraewr pêl-droed – ac o’r fan yna, mae’r ddau yn teithio i Gastell Newydd Emlyn ar gyfer bach o team bonding gyda chwrs antur lle mae Chris yn cael ei drochi yn yr iaith – a’r mwd!

Ymlaen i Feddgelert, ac mae Chris yn dysgu mwy am y Ddraig Goch – symbol sydd wedi bod mor bwysig iddo dros y blynyddoedd – gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd.

Mae Chris yn wynebu sawl her dros ei gyfnod ar Iaith ar Daith er mwyn profi ei sgiliau ieithyddol – gan gynnwys cael ei gyfweld yn y Gymraeg fel rhan o’r gyfres newydd o FFIT Cymru.

Iaith ar Daith
Nos Sul 28 Mawrth 8.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C