Mae bron i filiwn o bobl wedi cael eu brechu yng Nghymru erbyn hyn.
Ac mae’r achosion coronafeirws yn llai na 50 i bob 100,000 o’r boblogaeth am y tro cyntaf ers mis Medi y llynedd.
Yn ogystal â’r 983,419 o bobl sy wedi derbyn eu pigiad cyntaf, mae 168,163 wedi derbyn yr ail bigiad hefyd.
Yn y cyfamser, mae arbenigwr mewn clefydau heintus yn dweud y bydd angen parhau i ddatblygu’r brechlynnau dros y flwyddyn nesaf. Mae’n bwysig bod y brechlynnau yn gweithio gyda amrywiolion newydd.
Mae’r Athro Ravindra Gupta yn dweud bydd nifer yr amrywiolion – fel amrywiolyn Brasil – yn codi. “Felly, mae angen inni ailddylunio’n brechlynnau dros y flwyddyn nesaf gyda rhai o’r amrywiolion newydd yn bresennol yn y brechlynnau
Geirfa
brechu to vaccinate
pigiad jab
arbenigwr mewn clefydau heintus specialist in infectious diseases
amrywiolion variants
ailddylunio to redesign