Mae ffigyrau newydd gan Fanc Datblygu Cymru yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi dechrau busnes yn y cyfnod clo.
Dangosodd y ffigyrau fod gwerth £1.8 miliwn o fenthyciadau wedi’u rhoi i fusnesau newydd yn 2020, o gymharu ag £1.1 miliwn yn 2019, cynnydd o 60%.
Busnes newydd fel chauffeur preifat
Dechreuodd Carl Harris o Gasnewydd ei fusnes chauffeur preifat ei hun yn ystod y pandemig, ar ôl colli ei swydd ym mis Medi 2020.
“Dw i wedi gweithio ers roeddwn i’n 12 oed, a doedd Covid ddim yn mynd i newid hynny,” meddai.
“Ar ôl colli fy swydd ym mis Medi 2020, penderfynais i ddechrau busnes i fod yn chauffeur preifat. Enw’r cwmni yw Luxstar ac mae pob taith yn brofiad cofiadwy a diogel.
“Mae’r help gan Busnes Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Banc Datblygu wedi bod yn wych; o’r cynllun busnes ar y dechrau hyd at sefydlu gwefan newydd.
“Gall dechrau busnes newydd fod yn heriol, ond mae llawer o gymorth ar gael.
“Mewn gwirionedd, mae’r help gan y Banc Datblygu wedi newid fy mywyd am byth.”
“Pobol yn dilyn eu breuddwydion”
Dywedodd Nicola Edwards o Fanc Datblygu Cymru fod benthyciadau’r Banc yn galluogi “pobol i ddilyn eu breuddwydion”.
“Mae’r sectorau bwyd a diod, manwerthu ar-lein ac adeiladu yn perfformio’n arbennig o dda gyda phobl yn dilyn eu breuddwydion.
“Yn y Banc Datblygu, ’dyn ni’n gallu trefnu benthyciadau bach o £1,000, sy’n gallu bod yn help enfawr i rywun sy eisiau dechrau busnes am y tro cyntaf.”
Geirfa
benthyciadau loans
profiad cofiadwy memorable experience
sefydlu to establish
heriol challenging
galluogi to enable
manwerthu retail