Mae pôl gan ITV a Savanta ComRes, yn dangos basai 39% nawr yn pleidleisio ‘ie’ mewn refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
Cafodd y pôl ei wneud ar gyfer rhaglen UK: The End of the Union ar ITV.
Gan eithrio pobl a atebodd ‘ddim yn gwybod’, dywedodd 39% y basen nhw’n pleidleisio ‘Ie’ tasai refferendwm yfory.
Gwledydd eraill
Yn ôl y pôl, eto gan eithrio atebion ‘ddim yn gwybod’, basai 53% o bobl yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth tasai refferendwm yfory.
Yng Ngogledd Iwerddon, tasai refferendwm yfory, basai 43% eisiau ailuno ag Iwerddon.
Rhesymau
Mae’r pôl hefyd yn esbonio rhesymau pobl am eu safbwynt.
Dyma’r rhesymau pam mae pobl eisiau annibyniaeth:
Mae 53% yn teimlo bod gan Gymru agweddau cymdeithasol gwahanol i’r Deyrnas Unedig
Mae 51% yn teimlo bod Cymru yn genedl ar wahân
Mae 46% yn credu y bydd Cymru’n gwneud yn well os yw’n annibynnol
Mae 39% yn anhapus ag ymateb llywodraeth Boris Johnson i’r pandemig
Mae 36% yn ymddiried mwy yn Senedd Cymru na San Steffan.
Ond mae rhai pethau’n poeni’r bobl sy eisiau annibyniaeth:
Mae 46% yn poeni am yr economi
Mae 32% yn poeni am y gallu i deithio a gweithio’n rhydd yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig
Mae 29% yn poeni am y bosibilrwydd o safon byw is.
A dyma’r rhesymau pam dyw pobl ddim eisiau annibyniaeth:
Mae 79% yn teimlo bod Cymru’n gryfach yn y Deyrnas Unedig
Mae 60% yn credu fod Cymru yn rhan bwysig o’r Deyrnas Unedig
Mae 50% yn credu y bydd Cymru’n gwneud yn well yn economaidd yn y Deyrnas Unedig
Mae 35% yn poeni am y posibilrwydd o safon byw is.
Geirfa
annibyniaeth independence
eithrio to exclude
ailuno to reunite
safbwynt point of view
cenedl ar wahân separate nation
ymateb response
ymddiried to trust
safon byw is a lower standard of living