Mae meddyg oedd yn arfer gweithio i Undeb Rygbi Cymru yn poeni y bydd chwaraewyr rygbi presennol yn dioddef anaf hirdymor i’r ymennydd. Mae e’n dweud hyn achos bod mwy a mwy o achosion o gyfergyd.
Mae Alex Popham, oedd yn arfer chwarae i Gymru, wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia. Mae e’n dweud bod hyn wedi digwydd achos ei fod e’n chwarae rygbi.
Mae’r Athro John Fairclough yn llawfeddyg sy’n rhan o’r grŵp ‘Progressive Rugby’. Mae’r grŵp yn lobïo cyrff llywodraethu’r gêm i wneud y gêm yn fwy diogel. Maen nhw’n meddwl dylai chwaraewyr rygbi gael saib o dair wythnos os yw chwaraewr yn dioddef cyfergyd.
Mae Alex Popham hefyd yn rhan o’r grŵp.
Mae’r Athro Fairclough yn poeni y bydd y cyflyrau fel dementia yn codi eto. Mae mwy a mwy o achosion o gyfergyd. Felly mae hi’n debygol bydd mwy o anafiadau hirdymor i’r ymennydd.
Bydd yr Athro Fairclough yn rhoi tystiolaeth yn y Senedd yr wythnos nesaf. Mae grŵp yn y Senedd yn edrych ar y cysylltiad rhwng chwaraeon ac anafiadau hirdymor i’r ymennydd.
Mae e’n teimlo bod rhaid lleihau’r risgiau i chwaraewyr rygbi.
sioddef anaf hirdymor i’r ymennydd to suffer a long term injury to the brain
cyfergyd concussion
llawfeddyg surgeon
cyrff llywodraethu’r gêm the game’s governing bodies
saib pause
cyflyrau conditions
tebygol likely
tystiolaeth evidence
lleihau’r risgiau to reduce the risks