Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a golwg360 yn dathlu darllen rhwng 4 Mawrth (Diwrnod y Llyfr) ac 11 Mawrth.
Bob dydd ar Golwg 360, bydd dwy erthygl fydd yn addas i ddysgwyr sy ar lefel Canolradd+. Bydd yr erthyglau mewn adran arbennig o’r enw Dysgu Cymraeg erbyn amser cinio bob dydd.
Bydd rhai geiriau mewn print tywyll ac wedyn bydd rhestr o’r geiriau yma ar ddiwedd yr erthygl. Ond dych chi hefyd yn gallu defnyddio’r botwm VOCAB ar gyfer pob un o’r erthyglau ar golwg360.
Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda golwg360 a nifer o bartneriaid eraill i ddathlu darllen:
Ar dudalen Facebook Yr Eisteddfod Genedlaethol
Am 11am bob dydd, bydd awdur yn darllen stori o’r llyfr Ffenest (cyfres Amdani). Mae’r storïau yn addas ar gyfer lefelau Sylfaen a Chanolradd.
Am 7.30pm bob dydd, bydd awdur yn darllen stori o’r llyfr Agor y Drws (dydd Iau i ddydd Llun) a bydd Fiona Collins, Dysgwr y Flwyddyn 2019, yn sgwrsio gyda Nia Parry ac yn dweud chwedl ar ddydd Iau, 11 Mawrth. Mae’r storïau hyn yn addas ar gyfer lefel Mynediad. Ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, bydd cerdd a stori newydd i ddysgwyr lefel Uwch.
BBC Radio Cymru
Sgwrs ar raglen Aled Hughes ar Ddiwrnod y Llyfr ac ar Raglen Stiwdio am 9pm ar nos Lun, 8 Mawrth, bydd dysgwyr yn trafod darllen a pha mor bwysig yw darllen iddyn nhw wrth iddyn nhw ddysgu Cymraeg.
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg wedi rhoi tudalen arbennig ar eu gwefan – www.dysgucymraeg.cymru – lle bydd adnoddau diddorol, gan gynnwys podlediad gyda Manon Steffan Ros. Hefyd, bydd gwybodaeth am y llyfrau i ddysgwyr yng nghyfres Amdani.
Dywedodd Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae darllen yn ffordd wych o ymarfer y Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, o wella sgiliau a magu hyder. ’Dyn ni hefyd yn darllen i ymlacio a mwynhau a gobeithio bydd oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg yn mwynhau ein Gŵyl Ddarllen.”
Geirfa
cyfres a series
chwedl a tale, legend
cerdd a poem
adnoddau resources
gan gynnwys including
podlediad a podcast