Dach chi eisiau cyfle i ofyn cwestiynau i Angharad Tomos? Mae hi’n awdur ac yn ymgyrchydd iaith.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn trefnu digwyddiadau i ddysgwyr ar-lein. Maen nhw’n rhoi cyfle i ddysgwyr holi gwestai arbennig unwaith bob mis. Y gwestai cyntaf oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo.

Y tro yma mae Angharad Tomos yn siarad am ei llyfr Henriét y Syffrajét nos Fawrth, 18 Mehefin am 7pm. Mae Angharad wedi ysgrifennu llawer o lyfrau, gan gynnwys cyfres i blant am y cymeriad Rala Rwdins.

Yma mae Angharad wedi bod yn ateb cwestiynau Lingo360

Angharad, pryd wnaethoch chi sgwennu Henriét y Syffrajét?

Wnes i ysgrifennu’r nofel yn 2018 i bobl ifanc. Roeddwn i eisiau dod â chyfnod pleidlais i ferched yn rhywbeth byw i’r genhedlaeth ifanc, gan fod canrif wedi mynd heibio.

Oedd Henriét y Syffrajét yn llyfr anodd ei sgwennu?

Fy mhroblem oedd fod yr ymgyrch yn tueddu i fod yn un dosbarth canol, ac yn un Seisnig. Ond dyma sylweddoli fod Lloyd George yng nghanol y frwydr, felly wnes i leoli’r stori yng Nghaernarfon (a Llundain) a gwneud y prif gymeriad yn un dosbarth gweithiol. Dyma’r cyfnod lle byddai fy nain yn ifanc, felly roeddwn i’n meddwl amdani hi.

Beth wnaethoch chi ddysgu am y cyfnod yma wrth sgwennu’r llyfr?

Dysgais lawer wrth ei sgwennu, ac mae llawer yn seiliedig ar ffaith. Wnes i ddod i ddeall y gwahaniaeth hefyd rhwng syffrajét a syffrajist. Byddai Mam wastad yn deud mai syffrajét oedd hi, nid ffeminydd! Ond mae’n syndod mor radical oedd merched y bleidlais. Fe gawson nhw eu trin mor ffiaidd – pam? Dim ond am alw am rywbeth mor sylfaenol â’r hawl i bleidleisio.

Dach chi wedi gwneud un o’r sesiynau yma o’r blaen?

Dyma’r ail i mi ei wneud i sesiwn Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith. Gwnes y gyntaf ar y Beasleys. [Ymgyrch Trefor ac Eileen Beasley o Langennech i gael ffurflen dreth yn Gymraeg nôl yn y 1950au].

Yn y sesiynau, mae pobl yn cael eu rhannu’n grwpiau ar ôl i fi siarad, ac yna maen nhw’n gofyn cwestiynau. Mae’n gweithio yn rhwydd iawn, ac mae pobl o wledydd tramor yn ymuno hefyd.

 

Bydd y sesiwn gydag Angharad Tomos nos Fawrth, 18 Mehefin am 7pm.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cael toriad dros yr haf ac wedyn yn gobeithio ail-ddechrau ym mis Medi.

Anfonwch e-bost at post@cymdeithas.cymru am ddolen i’r digwyddiad.