Dyma’r penawdau wythnos yma:
- Archesgob Caergaint wedi ymddiswyddo
- Geraint Evans ydy Prif Weithredwr newydd S4C
- Siop ac adeiladau wedi’u dinistrio mewn tân yn y Fenni
- Iestyn Tyne ydy Bardd Tref cyntaf Caernarfon
Archesgob Caergaint wedi ymddiswyddo
Roedd Archesgob Caergaint Justin Welby wedi ymddiswyddo ddydd Mawrth (12 Tachwedd).
Daeth hyn ar ôl adolygiad i’r bargyfreithiwr John Smyth. Roedd Smyth wedi ei gyhuddo o gamdrin cannoedd o fechgyn ifancdros gyfnod o ddegawdau.
Cafodd adolygiad annibynnol Makin ei gyhoeddi ar 7 Tachwedd. Roedd yn datgelu bod Smyth wedi camdrin hyd at 130 o fechgyn mewn tair gwlad.
Yn ôl yr adolygiad roedd Smyth wedi cynnal ymosodiadau mewn gwersylloedd haf Cristnogol yn yr 1980au a’r 1990au. Roedd hyn pan oedd yn gweithio i’r elusen Gristnogol Iwerne Trust.
Roedd John Smyth wedi marw yn Ne Affrica yn 2018 heb wynebu achos llys.
Dywedodd yr adroddiad y dylai Justin Welby a swyddogion eraill yr eglwys fod wedi rhoi gwybod i’r heddlu am Smyth yn swyddogol yn 2013. Roedd Justin Welby yn credu bod yr heddlu wedi cael eu hysbysu yn 2013 ond nid oedd hynny wedi digwydd.
Dywedodd Justin Welby ddydd Mawrth ei fod wedi penderfynu ymddiswyddo fel Archesgob Caergaint. Roedd hyn lai nag wythnos ers iddo ddweud ei fod o ddim am roi’r gorau i‘w swydd.
“Mae’n amlwg iawn bod yn rhaid imi gymryd cyfrifoldeb personol a sefydliadol am y cyfnod hir a thrawmatig rhwng 2013 a 2024.
“Rwy’n gobeithio bod y penderfyniad hwn yn dangos bod Eglwys Loegr yn deall yr angen am newid a’n hymrwymiad i greu eglwys fwy diogel.”
Dywedodd ei fod yn teimlo “cywilydd am fethiannau diogelu hanesyddol Eglwys Loegr.
“Ers bron i ddeuddeg mlynedd rwyf wedi methu â chyflwyno gwelliannau. Mater i eraill yw barnu beth sydd wedi’i wneud.”
Geraint Evans ydy Prif Weithredwr newydd S4C
Mae Geraint Evans wedi cael ei benodi’n Brif Weithredwr S4C.
Ar hyn o bryd, mae’n Brif Swyddog Cynnwys Dros Dro’r sianel, ac yn arwain y tîm comisiynu.
Yn ystod y flwyddyn, roedd hefyd wedi bod yn gyd-Brif Weithredwr Dros Dro ar S4C am chwe mis.
Roedd Geraint Evans wedi ymuno ag S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes. Roedd yn gyfrifol am ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol S4C. Daeth yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi ar ôl hynny.
Bydd yn dechrau yn swydd y Prif Weithredwr ym mis Ionawr. Bydd Sioned Wiliam yn aros fel Prif Weithredwr Dros Dro tan hynny.
Cyn ymuno ag S4C, roedd Geraint Evans yn newyddiadurwr gydag ITV Cymru am 25 mlynedd.
Dywedodd Geraint Evans :“Mae’n fraint i gael y cyfle i arwain sianel dw i wedi’i gwylio a chynhyrchu cynnwys iddi ar hyd fy ngyrfa.
“Mae gan S4C rôl allweddol i’w chwarae i alluogi pobol i fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg, i ddenu siaradwyr newydd, ac i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol.
“Wrth i’n harferion gwylio newid mae’n bwysig bod S4C yn newid – ac yn denu, yn ysbrydoli ac yn diddanu ein cynulleidfaoedd, ar ba bynnag blatfform maen nhw’n dewis gwylio.
“Rwy’n edrych ymlaen at yr her, gan wybod bod timau talentog a chreadigol yma yn S4C.”
Guto Bebb ydy cadeirydd dros dro S4C. Mae’n dweud ei fod yn “benodiad cyffrous”.
“Mae’n arweinydd naturiol all uno staff a rhanddeiliaid wrth i’r sianel gychwyn pennod newydd.”
Ychwanega eu bod nhw’n ddiolchgar i Sioned Wiliam am ei gwaith yn Brif Weithredwr dros dro a’i bod hi wedi bod yn bleser cydweithio gyda hi.
Siop ac adeiladau wedi’u dinistrio mewn tân yn y Fenni
Roedd siop a sawl adeilad wedi cael eu dinistrio mewn tân yn y Fenni nos Sul diwethaf (Tachwedd 10).
Roedd 100 o ddiffoddwyr tân wedi ceisio diffodd y fflamau ac roedd yn rhaid i 12 o bobl adael eu cartrefi.
Y siop gafodd ei ddinistrio oedd The Magic Cottage. Dyma’r siop elusennol fwyaf yng Nghymru. Mae’r elusen yn cefnogi plant a phobol ifanc sydd ag anghenion ychwanegol a chyflyrau cronig.
Mae’r elusen yn dweud eu bod nhw wedi “colli popeth” yn y tân.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu Gwent wedi dweud y byddan nhw’n ymchwilio i achos y tân.
Roedd y tân wedi cael sylw yn y Senedd.
Peredur Owen Griffiths ydy Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru. Mae wedi gofyn os oes cymorth i’r busnesau gafodd eu heffeithio gan y tân.
Mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Economi Cymru, yn dweud y byddan nhw’n gallu cael cyngor, a chymorth ariannol o bosib, gan y corff Busnes Cymru.
Iestyn Tyne ydy Bardd Tref cyntaf Caernarfon
Iestyn Tyne yw Bardd Tref cyntaf Caernarfon.
Mae’r bardd yn dweud ei fod yn falch iawn o’r teitl. Mae wedi byw yn y dref ers tua chwe blynedd.
Mae Iestyn Tyne yn un o sylfaenwyr gwasg Y Stamp. Mae wedi cyhoeddi tair cyfrol o’i farddoniaeth ei hun a dau bamffled.
Gan ei bod hi’n rôl newydd bydd cyfle i weld sut fath o waith mae’r bradd eisiau ei wneud.
Bydd y Bardd Tref yn derbyn £1,000 y flwyddyn. Bydd Iestyn Tyne yn y rôl am tua blwyddyn a hanner arall.
“Mae o’n grêt; roedd o’n rhywbeth reit annisgwyl bod y Cyngor wedi galw am Fardd Tref,” meddai.
“Mae o’n neis, ar ôl gweld bod o wedi bod yn digwydd yn Aberystwyth ers ychydig o flynyddoedd bod hwnna’n amlwg yn gweithio a bod Caernarfon yn sbïo i’r cyfeiriad yna am ysbrydoliaeth.
“Dw i’n meddwl fod o’n benderfyniad da gan y Cyngor; dw i’n falch iawn o gael y penodiad a dw i’n edrych ymlaen at weld be’ ddaw, achos mae hi’n rôl newydd sbon; does yna ddim cynsail, wedyn fydda i’n ffeindio’n ffordd ar dudalen wag.”
Mae Iestyn Tyne yn dweud fod y Cyngor Tref yn “eithaf penagored” ac eisiau cerddi i “wneud efo Caernarfon, y pethau dw i’n eu gweld, a’r bobol dw i’n eu cyfarfod,” meddai.
“Dw i’n gweithio o stiwdio yng Nghaernarfon, ac yn byw yn yr ardal.
“Mae lot o fy ngwaith i am Gaernarfon. Mae’r lle yn fy ysbrydoli i.
“Mae yna lot o sgrifennwyr yma, lot o sgrifennwyr wedi bod yma dros y blyndyddoedd… canrifoedd.
“Rydyn ni mewn lle ysbrydoledig, rhwng Eryri a’r môr, a ti’n tynnu ar lot o bethau felly.”
Mae Iestyn Tyne yn gobeithio y bydd cyfleoedd i gyfuno celf gyhoeddus efo barddoniaeth neu berfformiadau, neu drwy gydweithio efo mudiadau a grwpiau lleol.
“Mae o’n rhywbeth dw i wedi bod yn gweithio lot arno fo yn fy ngwaith fy hun dros y blynyddoedd diwethaf beth bynnag – mynd â ’marddoniaeth i gyfryngau gwahanol cydweithio efo artist sain, er enghraifft, neu feddwl sut mae fy ngherddi i’n gweithio o fewn gofod yn hytrach nag o fewn cyfrol,” meddai.
“Mae o’n gyffrous; mae o’n deitl sy’n rhoi eithaf lot o falchder i mi.”