Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Cau dwy ysgol ar Ynys Môn ar ôl dod o hyd i goncrit RAAC
  • Arwyddion 20m.y.a. wedi cael eu fandaleiddio
  • Gwersi Cymraeg yn Y Rhondda wrth baratoi at yr Eisteddfod
  • Enwi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd

Ysgol David Hughes

Cau dwy ysgol ar Ynys Môn ar ôl dod o hyd i goncrit RAAC

Roedd dwy ysgol ar Ynys Môn wedi cael eu cau dros dro ar ôl i goncrit RAAC gael ei ganfod ynddyn nhw, meddai Cyngor Môn.

Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi oedd y ddwy ysgol oedd wedi cau.

Roedd disgwyl i ddisgyblion fynd yn ôl i’r ddwy ysgol ddydd Mawrth (Medi 5). Ond roedd yn rhaid aros ar gau er mwyn cynnal adolygiad diogelwch o’r concrit RAAC.

Mae’r math yma o goncrit yn gallu dymchwel heb rybudd. Mae pob un o awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn ceisio darganfod os ydy’r concrit wedi ei ddefnyddio mewn ysgolion, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi adnabod dros 150 o ysgolion, colegau a meithrinfeydd yn Lloegr sy’n cynnwys y concrit.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, bod diogelwch staff a disgyblion yn flaenoriaeth.

Mae hon yn sefyllfa sy’n newid drwy’r amser ac yn fater cenedlaethol,” meddai.

“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn siomedig i’r holl staff a disgyblion.

“Rydym yn rhoi cynlluniau yn eu lle ar gyfer Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi er mwyn lleihau’r aflonyddwch i addysg y plant.”

Roedd Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am beidio rhannu’r wybodaeth tan yn hwyr nos Lun.

Roedd hyn “o bosib wedi peryglu diogelwch plant, pobol ifanc a staff mewn ysgolion a cholegau,” meddai Heledd Fychan o Blaid Cymru.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb yn gadarn nawr er mwyn sicrhau bod y risg yn cael ei lleihau.”

Ond roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “laesu dwylo” ar y mater.

Mae’r concrit wedi cael ei ganfod yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ac Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth hefyd.

Roedd y concrit yn cael ei ddefnyddio’n aml rhwng y 1960au a’r 1990au. Nawr, mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn rhybuddio ei fod wedi pasio ei gyfnod diogel a’i fod yn gallu dymchwel heb rybudd.

Y Gweinidog Addysg ydy Jeremy Miles. Mae e’n dweud nad oes concrit RAAC wedi ei ganfod yn yr un ysgol arall yng Nghymru hyd yma.


Arwyddion 20m.y.a. wedi cael eu fandaleiddio

Mae Cymru yn paratoi i gyflwyno terfyn cyflymder newydd o 20m.y.a. ar 17 Medi.

Mae’n golygu y bydd y rhan fwyaf o ffyrdd 30m.y.a. yng Nghymru yn newid i fod yn 20m.y.a.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bydd hyn yn achub bywydau a’r amgylchedd.

Ond mae rhai pobl yn anhapus am hyn. Mae llawer o arwyddion ffordd ar draws y wlad wedi cael eu fandaleiddio.

Mae rhai arwyddion gyda sticeri wedi cael eu fandaleiddio yn Sir y Fflint, Bwcle a Chonwy.

Natasha Asghar ydy llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig. Mae hi’n dweud bod y fandaleiddio’n anghywir, ond ei fod yn dangos beth mae’r cyhoedd yn meddwl o’r polisi newydd.

Mae Natasha Asghar yn dweud bydd y polisi yn costio £4.5bn i economi Cymru ar ben y gost o £33m.


Gwersi Cymraeg yn Y Rhondda wrth baratoi at yr Eisteddfod

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, ac mae pobl yn yr ardal yn dechrau paratoi.

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a busnesau lleol yn trio rhoi cyfleoedd i bobl yr ardal ddysgu’r iaith.

Maen nhw’n cynnig pob math o gyrsiau – o gyrsiau dwys i sgyrsiau wythnosol anffurfiol. Maen nhw’n gobeithio y bydd siaradwyr Cymraeg newydd yn mynd i’r Eisteddfod ac yn defnyddio’r cyfle i siarad Cymraeg.

Bydd cyfle i bobol sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf ddysgu Cymraeg am ddim.

Mae cwrs lefel mynediad a sylfaen yn cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru.

Fe fydd y cwrs dwys yn para am naw awr bob wythnos gyda gwersi ar foreau Llun, Mawrth a Gwener rhwng 09:30 a 12:30.

“Mae’n amlwg fod yna frwdfrydedd ymhlith siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, felly mae’n gyfle i ychwanegu at eu brwdfrydedd nhw gyda siaradwyr newydd,” meddai Helen Prosser, o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2024.

Mae’n nhw’n gobeithio y bydd y siaradwyr newydd eisiau gwirfoddoli a defnyddio eu Cymraeg yn yr Eisteddfod.

“Rydyn ni wir eisiau eu denu nhw, nid yn unig i’r Eisteddfod, ond i fod yn rhan o lywio beth fydd rhaglen yr Eisteddfod a threfnu gweithgareddau codi arian.

“Mae’n hyfryd a dw i wrth fy modd gan fy mod i am gael dysgu un o’r boreau.”

Bydd y cwrs yn dechrau Medi 11 ar gampws Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest, ac mae croeso i unrhyw un dros 18 oed ymuno gyda’r cwrs.


Jac Morgan a Warren Gatland

Enwi tîm Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi’r tîm fydd yn chwarae yn erbyn Ffiji yn Bordeaux yfory (dydd Sul, Medi 10).

Roedd carfan Cymru wedi cyrraedd Bordeaux o’u gwersyll yn Versaille ddydd Iau (Medi 7).

 

Jac Morgan fydd yn gapten ar dîm rygbi Cymru ar gyfer eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd.

Mae’r 15 fydd yn cychwyn y gêm yn cynnwys pum chwaraewr fydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf. Maen nhw’n cynnwys Louis Rees-Zammit, Gareth Thomas a Nick Tompkins.

Fe fydd pum chwaraewr arall yn eu Cwpan y Byd gyntaf ar y fainc hefyd, gan gynnwys Rio Dyer a Corey Domachowski.

Mae Taulupe Faletau wedi cael ei enwi yn y tîm hefyd. Roedd e wedi methu tair gêm baratoadol Cymru’n ystod yr haf.

Bydd George North yn chwarae gêm rhif 17 yng Nghwpan y Byd.

Dydy’r cyd-gapten Dewi Lake heb gael ei enwi ar gyfer y gêm gyntaf.

Ar ôl y gêm yn erbyn Ffiji, bydd Cymru’n herio Portiwgal, Awstralia a Georgia yng Ngrŵp C.

Dywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland: “Rydyn ni mewn lle da a fedrwn ni ddim aros i fynd allan yno a dechrau ein hymgyrch yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023.”

Tîm Cymru

15 Liam Williams, 14 Louis Rees-Zammit, 13 George North, 12 Nick Tompkins, 11 Josh Adams, 10 Dan Biggar, 9 Gareth Davies, 1 Gareth Thomas, 2 Ryan Elias, 3 Tomas Francis, 4 Will Rowlands, 5 Adam Beard, 6 Aaron Wainwright, 7 Jac Morgan, 8 Taulupe Faletau

Eilyddion

16 Elliot Dee, 17 Corey Domachowski, 18 Dillon Lewis, 19 Dafydd Jenkins, 20 Tommy Reffell, 21 Tomos Williams, 22 Sam Costelow, 23 Rio Dyer

Bydd y gic gyntaf am 8yh nos Sul, Medi 10 ac mae gemau Cymru i gyd yn cael eu dangos ar S4C.