Rhan 2

“Dw i’n synnu o weld faint o arian oedd gan Tesni,” meddai Dad.  “Roedd llawer iawn o arian yna o feddwl bod Tesni ar bensiwn.”

“Cofia,” meddai Mam. “Dim ond un person oedd yna.  Doedd dim llawer o gostau.”