Mae bob amser yn bleser cael sgwrs efo siaradwyr newydd a chlywed pam maen nhw wedi dechrau dysgu Cymraeg. Mae Deirdre McKenna yn artist sy’n byw yn Iwerddon. Mae hi’n siarad Gwyddeleg. Daeth hi i Fachynlleth tua saith mlynedd yn ôl gyda’i gwaith. Roedd hi wedi penderfynu dysgu ychydig o eiriau Cymraeg cyn dod i Gymru. Roedd hi wedi mwynhau