Annwyl lingo newydd,

Dw i’n mwynhau darllen lingo newydd. Dw i wedi bod ar gyrsiau gyda Popeth Cymraeg yn y gorffennol ond ddim rŵan achos dw i wedi bod trwy bob lefel. Dw i wrth fy modd yn ysgrifennu barddoniaeth.

Dw i wedi cystadlu mewn Eisteddfod o’r blaen yn y gystadleuaeth agored – Y Gadair – Cerdd. Enillais y drydedd wobr am fy ngherdd ‘Y Bont’ yn Eisteddfod y Dysgwyr yn Llanrwst yn 2019.