Dych chi wedi cael rhywun yn gwneud gwaith i chi? Ond dydyn nhw ddim wedi gwneud y gwaith yn dda iawn? Maen nhw’n dweud “bydd yn gwneud y tro” ac wedyn yn gadael heb orffen y gwaith yn iawn.

Ond mae ystyr arall hefyd yn idiom Mumph – mae’r garddwr yn “gwneud y tro” yn y llwybr yn yr ardd at y sied. Ydy’r ateb yma yn “gwneud y tro”?!