Rhan 5
Dw i ddim yn mwynhau mynd i siopa yng Nghaernunlle. Ar ôl byw mewn pentre bach ers misoedd, mae hi’n rhy fawr ac yn rhy swnllyd. Dw i’n hapus iawn i orffen y siopa.
Ar ôl siopa, dw i ddim yn mynd yn syth nôl i’r tŷ. Dw i’n stopio o flaen Tŷ’r Efail. Dw i’n cerdded i fyny’r dreif ac yn cnocio’r drws. Dw i’n teimlo’n dwp. Beth dw i’n wneud?