Dych chi’n mwynhau gwylio rygbi? Dych chi am wylio Cwpan Rygbi’r Byd? Mae Cwpan y Byd yn Ffrainc y tro yma. Bydd gemau mewn 10 dinas ar draws Ffrainc. Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar 8 Medi ac yn gorffen ar 28 Hydref. Dych chi’n mynd draw i Ffrainc i gefnogi Cymru? Mae Sarra Elgan yn gyflwynydd teledu. Mae hi’n mynd i Ffrainc i gyflwyno rhaglenni rygbi S4C. Yma mae hi’n ateb cwestiynau lingo newydd…