Beth am gael hwyl gyda geiriau? Mae Pegi Talfryn wedi gosod y tasgau newydd yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Dyma 10 pâr o eiriau sy’n hollol wahanol i’w gilydd.
Beth ydy ystyr y geiriau?
Dach chi’n gallu cysylltu’r geiriau yn y gêm yma?
Dach chi’n gallu ysgrifennu brawddegau gyda’r geiriau?
ennill – colli
nef – uffern
hir – byr
chwerthin – crio/llefain
tew – tenau
mewn – allan
syrthio – codi
cyffyrddus – anghyffyrddus
cyflym – araf
gwahanol – tebyg
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Dach chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau.