Cafodd Paige Morgan ei geni a’i magu yn Seattle, Washington. Nawr mae hi’n byw yn Wilmington, Delaware yn yr Unol Daleithiau.
Dyw Paige ddim yn cofio sut y dechreuodd ei diddordeb yn y Gymraeg, ond mae hi’n cofio ceisio dysgu’r iaith pan oedd hi’n blentyn – drwy ddarllen llyfrau ail-law.
Roedd hi wedi ail-gysylltu â’r iaith yn 2016. Eleni, roedd hi wedi cwblhau cwrs lefel Uwch gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Mae’r cwrs yn cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dyma ychydig o hanes Paige, yn ei geiriau ei hun…
Dw i’n cofio gwrando ar BBC Radio 3 yn 2016, a chlywais gân hynod o hyfryd; cân lesmeiriol gan Bendith.
Ro’n i’n dwlu ar y gân, a dwedais i: “Dylet ti ddechrau dysgu Cymraeg eto.”
Roedd llawer mwy o adnoddau i fy helpu i ddysgu erbyn hynny – apiau fel SaySomethinginWelsh a Duolingo – ond roedd Radio Cymru yn ddefnyddiol iawn.
Wrth wrando, darganfyddais fy mod i wrth fy modd â cherddoriaeth Gymraeg… Brigyn, Ryan a Ronnie, Plethyn, Meinir Gwilym, Rogue Jones, Geraint Lovgreen… r’on i methu cael digon. Doedd dim ots na allwn ddeall pob gair o’r caneuon. A dyna sut wnes i ail-gychwyn fy nhaith iaith.
Dysgais yn araf iawn ar fy mhen fy hun, weithiau doedd gen i ddim ond pum munud i wneud Duolingo… ond roedd Radio Cymru wastad yna, fel rhyw fath o raglen drochi. Roedd gwrando ar y radio’n bwysig gan ei fod yn ffordd dda i glywed tafodieithoedd a dod i ddeall bod nifer o ffyrdd o fynegi rhywbeth.
Ymaelodais â Chôr Cymry Gogledd America yn 2019. Roedd gwersi Dysgu Cymraeg ar lefel Mynediad gan y côr ond ro’n nhw’n rhy hawdd i fi erbyn hynny. Ro’n i’n dysgu fel pioden, ac yn ffeindio adnoddau i ddysgu mewn pob math o lefydd.
Dod i Gymru am y tro cyntaf!
Daeth y côr i Gymru yn 2023 – dyma oedd y tro cyntaf i fi fod yng Nghymru ers dechrau dysgu.
Ro’n i’n nerfus iawn am siarad, ond dechreuais sgwrsio â threfnydd y daith ar yr ail ddiwrnod a daeth fy Nghymraeg allan fel swigod o botel befriog.
Ar ôl dychwelyd i’r UDA, ro’n i’n gweld eisiau siarad Cymraeg. Dechreuais wneud dosbarth Uwch ar-lein, er gwaetha’r ffaith ei fod e’n dechrau am 4:30yb, amser UDA.
Ond roedd dosbarth Tracey Eccott werth yr ymdrech, ro’n i mor hapus i gael cyfle i siarad a dysgu mwy o Gymraeg bob wythnos.
Roedd Tracey yn diwtor hyfryd a galluog iawn, ac mae fy Nghymraeg wedi gwella llawer gyda’i help hi.
hanaf
Cymraeg ‘fel angor‘
Penderfynais i ddod yn ôl i Gymru, i gerdded dipyn o Lwybr yr Arfordir ac ymarfer fy Nghymraeg.
Gwnes i gyrraedd ym mis Ebrill a chychwyn cerdded y llwybr – byrbrydau yn fy mag, Bwncath yn fy nghlustffonau, tywydd llwyd ond ddim yn ofnadwy. Ro’n i’n gwneud amser da, saith milltir mewn dwy awr… ac wedyn wnes i ddod i ran lithrig o’r llwybr. Rhoddais fy nhroed ar y glaswellt a chwympais…
Clywais i’r esgyrn yn torri. Do’n i erioed wedi torri asgwrn o’r blaen.
Roedd fy nhiwtor Tracey a’i gŵr, Tony, wedi mynnu dod i fy achub ac ro’n i’n ddiolchgar iawn.
Roedd yn rhaid i fi aros yn yr ysbyty am wythnos cyn cael llawdriniaeth (achos roedd y toriad yn gymhleth) ac wedyn, arhosais gyda fy ffrind Kim am dair wythnos cyn hedfan yn ôl i’r UDA. Mae fy nyled yn fawr i Kim, a’m tiwtoriaid Dysgu Cymraeg, Tracey a Kara – a fy ffrind Iain, a ddaeth o Lundain i ymweld â fi.
Gallwn i ddweud llawer o bethau am y cyfnod hwn, ond, heb os, roedd y Gymraeg fel angor i fi.
Ar ôl fy noson gyntaf yn yr ysbyty, daeth nyrs at fy ngwely, a gwelais i’r swigen ‘Cymraeg’, felly gofynnais “dych chi’n siarad Cymraeg?” Roedd hi wedi ei syfrdanu gan fy nghwestiwn – doedd neb yn disgwyl i Americanes ddechrau siarad Cymraeg yn yr ysbyty!
Ond ar ôl siarad am ychydig, gofynnodd beth oedd yn well ‘da fi, Cymraeg neu Saesneg. A dewisais Gymraeg.
Doedd hwn ddim yn ddewis hawdd, a theimlai fel pe bai fy ngheg yn llawn tywod yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf; ond dw i’n cofio sylweddoli fy mod i wedi cael sgwrs go iawn yn Gymraeg ac roedd hynny’n anhygoel. Ac wedyn, daeth pethau’n haws ac yn haws.
‘Fy iaith i’
Felly, ces i bedair wythnos yn byw fy mywyd yn Gymraeg.
Tyfodd fy Nghymraeg fel chwyn yn yr haf. Mae’r iaith wedi deffro yn fy mhen nawr; dw i’n dueddol o feddwl yn Gymraeg yn aml… swnio’n rhyfedd iawn, dw i’n siŵr. Ond fy iaith i yw hi, rhywsut?
Dyma fy nghyngor i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg:
- Does dim byd yn bod gyda dysgu’n araf;
- Cofiwch fod mwy nag un ffordd o gael Wil i’w wely;
- Ffeindiwch ffordd o ddysgu sy’n apelio atoch chi;
- Peidiwch â stopio siarad – ni fydd tawelwch yn gwella’ch Cymraeg. Pridd di-ffrwyth yw tawelwch i dyfu ieithoedd.
Bydd Paige Morgan yn ysgrifennu colofn newydd i Lingo360 unwaith y mis…