Dyma golofn Elin Barker, garddwraig sy’n gweithio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Mae Elin yn Uwch Gadwraethydd Gerddi ac wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers chwe blynedd. Y tro yma mae hi’n edrych ar afalau treftadaeth Sain Ffagan…   


Yn nhawelwch y gaeaf, mae gerddi Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan yn llawn bwrlwm. Ionawr yw’r amser perffaith i docio coed afalau. Mae’n sicrhau twf iach a chynhaeaf da yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Yn Sain Ffagan, mae’r perllannau’n gartref i sawl math o afalau treftadaeth. Mae pob un â’i henw a’i stori ddiddorol iawn ei hun.

Perllan Kennixton yn y Gwanwyn

Un afal o’r fath yw Gwell na Mil – “Seek No Further” ydy enw Saesneg yr afal ym Mynwy. Mae’r afal yn dyddio’n ôl i’r 1700au. Ysgrifennwyd am yr afal yn y Cambrian Journal o 1856. Un arall yw Pig y Golomen, neu “Pigeon’s Beak,” math traddodiadol o Sir Benfro. Mae’r enw wedi’i ysbrydoli gan ei siâp nodedig.

Mae yna hefyd “Morgan Sweet”, ffefryn ymhlith glowyr Cymru. Roedden nhw’n hoffi ei flas adfywiol yn ystod sifftiau hir o dan y ddaear.

Dych chi’n gallu dod o hyd i‘r afalau yma, a llawer o rai eraill, o amgylch y perllannau ar draws Sain Ffagan.

Cynaeafu afalau ar gyfer sudd

Mae’r hen goed yn darparu ffrwythau a hefyd yn gynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt. Mae adar, pryfed ac ystlumod i gyd yn dibynnu ar y perllannau am gysgod a bwyd.

Sudd afalau

Bob blwyddyn, mae’r afalau’n cael eu cynaeafu a’u cymryd oddi ar y safle i’w gwasgu i sudd. Mae’r sudd wedyn yn cael ei werthu yn siop yr amgueddfa. Mae’r gofal sy’n cael ei roi i’r perllannau yn eu cadw nhw’n iach ac yn gynhyrchiol. Mae’r gofal traddodiadol yma wedi cynnal y perllannau ers cenedlaethau.

 

Un o’r bowlenni gwaseilio hardd sydd i’w gweld yn oriel Gweithdy
Llun: © Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Gwaseilio

Ionawr hefyd yw’r tymor ar gyfer gwaseilio. Mae’n draddodiad hynafol i fendithio coed afalau a sicrhau cynhaeaf da. Mae gwasael yn aml yn golygu canu, cynnig seidr i’r coed, ac weithiau gyrru ysbrydion drwg i ffwrdd. Mae casgliadau’r amgueddfa’n cynnwys bowlenni gwaseilio hardd. Roedden nhw’n cael eu defnyddio yn draddodiadol yn ystod y dathliadau hyn. Mae ymwelwyr yn gallu gweld rhai enghreifftiau o’r rhain yn oriel Gweithdy, gan gynnwys darnau o grochenwaith Ewenni.

Mae Ionawr yn y perllannau yn amser i fyfyrio ar draddodiadau a gofalu am y dyfodol. Mae’r tocio sy’n cael ei wneud nawr yn sicrhau bod y coed yn parhau’n iach a chynhyrchiol am flynyddoedd i ddod. Mae’n parhau a chylch sydd wedi bod yn rhan o fywyd cefn gwlad Cymru ers canrifoedd.

Perllan Kennixton yn y Gwanwyn