Mae Debbie Smith yn byw yng Nghanada. Mae hi’n dysgu Cymraeg. Mae Debbie yn mwynhau ysgrifennu. Dyma stori ysgrifennodd hi ar gyfer Tlws Rhyddiaith y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni. Mae’r stori wedi cael ei gosod yn Ontario, Canada yn 1896. Mae’n yn dilyn hanes un o’r genedl frodorol yno, y Cri.
Ontario, Canada, 1896
Cododd Sarah ei llaw yn betrusgar ar ei brawd iau ond wnaeth hi ddim gwenu. Does neb yn gwenu yma. Pasio yn y coridor yw’r unig amser pan mae hi a’i brawd yn gweld ei gilydd. Mae hi’n poeni amdano fe. Mae hi wedi clywed gwich y llawr ar nosweithiau digwsg wrth i un o’r Brodyr Catholig sleifio i mewn i neuadd y bechgyn.
Nid Sarah yw ei henw go iawn. Maen nhw’n cael eu taro gyda strap lledr os ydyn nhw’n dweud enw gwreiddiol rhywun. Cafodd pawb enw newydd gan y Chwiorydd a’r Brodyr Catholig sy’n rheoli’r ysgol breswyl. Roedd y Dyn Gwyn wedi eu hanfon yma i gael eu haddysg – i ddod yn wareiddiedig.
Mae Sarah wedi treulio oriau hir yn golchi dillad a sgrwbio lloriau. Mae croen ei dwylo wedi cracio ar ôl blynyddoedd mewn glanedydd. Does dim llawer o amser i’r addysg addawodd y Dyn Gwyn. Ond yfory bydd hi’n 16 oed ac yn gallu gadael y lle hwn o’r diwedd. Dyw llawer o blant byth yn gadael. Maen nhw’n gorwedd yn anesmwyth mewn beddau heb eu marcio tra bod eu rhieni‘n aros iddyn nhw ddod adre.
Pan gyrhaeddodd hi a’i brawd saith mlynedd yn ôl, cawson nhw eu tynnu o’u dillad. Cawson nhw eu rhoi mewn gwisg ysgol a chôt – côt oedd yn rhy denau ar gyfer gaeaf Ontario. Cafodd eu gwallt hir du ei dorri’n fyr a’i olchi gyda rhywbeth oedd yn pigo eu llygaid. Yna cafodd hi a’i brawd eu gwahanu. Roedd hi’n cofio sgrechian a cheisio gafael ym mraich ei brawd ond tarodd y Chwaer hi’n galed a dweud wrthi hi am roi’r gorau i fod yn anwariad. Roedd hi wedi cael ei galw’n hynny llawer mwy o weithiau dros y blynyddoedd.
Mynnodd y Chwiorydd ei bod hi’n dysgu siarad Saesneg. Doedd hi ddim yn deall pam. Mae aelodau ei chymuned Cri yn siarad yr iaith Crïeg. Iaith israddol yw Crïeg, yn ôl y Chwiorydd. Ar y dechrau, roedd hi a’r merched eraill yn siarad Crïeg â’i gilydd, ond pan gawson nhw eu dal, trywanodd y Chwiorydd eu tafodau gyda nodwydd. Roedd eu dull yn effeithiol iawn. Doedd hi ddim wedi siarad Crïeg ers talwm. Dyw hi ddim yn cofio sut mwyach.
Gorweddodd hi ar ei matres rhwygiedig a chaeodd ei llygaid, ond allai hi ddim tawelu ei meddyliau. Er gwaetha eisiau ffoi rhag yr erchyllterau oedd wedi digwydd yma, mae hi’n nerfus am fynd adre. Mae hi’n gwisgo dillad y Dyn Gwyn, yn siarad iaith y Dyn Gwyn, ac yn gweddïo ar dduw’r Dyn Gwyn. Dyw hi ddim yn teimlo fel Cri bellach. Ym marn y Dyn Gwyn, roedd hi wedi dod yn waraidd ond, yn ei barn hi, roedd e wedi lladrata ei chymuned oddi arni.